Profiad
Gwaith

Ein Cyfleoedd Profiad Gwaith

Byddwch yn treulio wythnos gyda chydweithwyr Dŵr Cymru yn un o'n lleoliadau ledled Cymru a Swydd Henffordd (bydd angen i chi fod â’ch cludiant eich hun i gyrraedd y lleoliad a nodir). Yno, cewch gyfle i ddysgu am Dŵr Cymru, yr hyn a wnawn, sut rydym yn ei wneud a'n gwerthoedd. Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bawb – unrhyw oedran neu lefel addysg, p'un a ydych yn dal yn yr ysgol neu wedi gweithio ers degawdau ond awydd newid.

Mae gennym 5 o wahanol lwybrau profiad gwaith yn dibynnu ar ba swyddi a meysydd busnes y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Eisiau gwybod mwy am weithio gyda Dŵr Cymru?

Gwnewch ein profiad gwaith rhithiol, sy’n hwyl ac yn rhyngweithiol, gyda Springpod! Byddwch yn dysgu am yrfaoedd go iawn, yn taclo heriau cyffrous, ac yn gweld sut rydyn ni’n dod â Chymru’n fyw — y cyfan o gysur eich cartref.

Dechreuwch eich taith yma

Mae ceisiadau bellach ar gau. Ein hwythnos profiad gwaith nesaf yw 16-20 Chwefror 2026, bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma o fis Ionawr.

Peirianneg a Gweithrediadau

Rydym yn cynnal ac yn gwella ein piblinellau a'n gwaith trin dŵr i sicrhau bod dŵr a dŵr gwastraff yn ddiogel ac yn effeithlon. Mae swyddi yn cynnwys trydanwyr, gosodwyr mecanyddol, gweithredwyr ac arolygwyr.

Cwsmeriaid

Rydym yn darparu gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu wrth hyrwyddo profiad cadarnhaol i'r defnyddiwr. Mae swyddi yn cynnwys cynghorwyr cwsmeriaid, darllenwyr mesuryddion, arweinwyr tîm manwerthu.

Data a Thrawsnewid

Rydym yn dadansoddi data ac yn ysgogi arloesedd digidol i wella effeithlonrwydd gweithredol, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli adnoddau. Mae swyddi yn cynnwys gwyddonwyr data, dadansoddwyr profion, dadansoddwyr seiberddiogelwch.

Busnes a Chorfforaethol

Rydym yn rheoli swyddogaethau ariannol, gweinyddol a strategol i gefnogi gweledigaeth Dŵr Cymru a thwf cynaliadwy. Mae swyddi yn cynnwys gweinyddwyr, cynghorwyr adnoddau dynol, cyfrifwyr, cynghorwyr iechyd a diogelwch.

Gwyddoniaeth a'r Amgylchedd

Rydym yn monitro ansawdd dŵr ac effaith amgylcheddol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a hyrwyddo cynaliadwyedd ecolegol. Mae swyddi yn cynnwys technegwyr labordy, rheolwyr cyswllt ansawdd afonydd, gwyddonwyr prosesau.