Dyma rhai o’r cyfleoedd profiad gwaith blaenorol a gynigiwyd ar draws Dŵr Cymru.
“Rydw i wedi dysgu cymaint, ac mae hi wedi rhoi dealltwriaeth dda i fi am y cwmni a’r broses y tu ôl i’r dŵr sy’n mynd allan i dapiau pobl. Mae hyn wedi bod yn wych i fi.” – Joshua, Peirianneg a Gweithrediadau.
“Mae’r profiad yma wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu gwell dealltwriaeth am sut mae gwahanol adrannau o fewn sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nodau cyffredin. Drwyddi draw, mae’r cyfle profiad gwaith yma wedi ehangu fy mhersbectif am rolau a chyfrifoldebau o fewn sefydliad.” – Jasmine a Jamie, Busnes a Chorfforaethol.
“Fe ddysgais i am brosesau dŵr gwastraff a dŵr glân. Fy ddysgon ni am fanylion y prosesau cemegol sy’n angenrheidiol er mwyn cadw’r ddau gyfleuster yn rhedeg. Mae fy amser yn gwneud profiad gwaith yr wythnos hon wedi bod yn anhygoel.” – Reyhan a Polly, Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd.
“Rydw i wedi cael y cyfle feithrin dealltwriaeth am rai o’r prosiectau personol mae eu tîm yn gweithio arnynt. Mae sgiliau sylw i fanion, gwaith tîm, rhaglenni/codio ac adeiladu modelau yn hanfodol, a gellir eu trosglwyddo i feysydd y gwyddorau fel swyddi dadansoddeg neu’r gwyddorau data.” – Margarita, Data a Thrawsnewid.
“Fe ddysgais i lawer o bethau yn ystod fy amser gyda Dŵr Cymru, fel dysgu sut mae’r holl weithfeydd yn gweithio a sut mae popeth yn cael ei ddilysu a’i fesur. Fe ddysgais i rôl gosodwr mecanyddol ac roeddwn i wrth fy modd, byddwn i’n dwlu gwneud hyn yn y dyfodol.” – Richie, Rhys ac Adam, Peirianneg a Gweithrediadau.