Rydym ni ym mhob cymuned. Ac er mwyn pob cymuned.
Ni yw Dŵr Cymru. Y bobl â’r angerdd i ddod â dyfodol pobl yn fyw mewn busnes sy’n rhoi bywyd i Gymru!
Darganfyddwch y gwahaniaeth y gall Dŵr Cymru ei wneud i'ch bywyd.
Ein Dŵr sy’n rhoi bywyd i Gymru
Mae’n helpu i gadw 3 miliwn o bobl yn iach ac yn lân bob dydd. Mae’n cadw busnesau’n rhedeg yn ddidrafferth a bywyd yn llifo’n braf. Yn Dŵr Cymru, rhown bob ceiniog, pob mymryn o egni, a llawer o gariad at roi bywyd i Gymru, drwy roi dŵr glân i gartrefi a busnesau, a mynd â dŵr gwastraff i ffwrdd yn ddiogel. Amseroedd arloesol, amseroedd peirianneg, amseroedd gwirfoddoli, amseroedd hwyl, ac amseroedd datblygu.
Ni yw'r peirianwyr a'r gwyddonwyr, y gofalwyr a'r cynghorwyr cwsmeriaid sy'n cadw'r tapiau’n llifo a’n cwsmeriaid yn hapus. A ni yw’r miloedd o rolau hynod amrywiol eraill â chyfrifoldeb Cenedlaethol, pawb yn gweithio i ddarparu’r safonau uchaf o foddhad.
Gyrfaoedd yn Dŵr Cymru
Cychwyn ar eich gyrfa gyda Dŵr Cymru
Bywyd yn Dŵr Cymru
Rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu
Gyrfaoedd cynnar
Hyfforddiant, cymorth, datblygiad a dilyniant yn Dŵr Cymru
Ymunwch â'n Cymuned Dalent
Rhowch eich cyfeiriad e-bost a dysgwch fwy amdanom ni. Byddwn yn rhannu gwybodaeth sy'n cyfateb i'ch diddordebau
Pori pob swydd
Gweld ein holl gyfleoedd agored
Eisiau gwybod mwy am weithio gyda Dŵr Cymru?
Gwnewch ein profiad gwaith rhithiol, sy’n hwyl ac yn rhyngweithiol, gyda Springpod! Byddwch yn dysgu am yrfaoedd go iawn, yn taclo heriau cyffrous, ac yn gweld sut rydyn ni’n dod â Chymru’n fyw — y cyfan o gysur eich cartref.
Dechreuwch eich taith ymaCydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o barch gan y naill at y llall lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith a chael cyfle cyfartal i ffynnu. Rydym yn credu mewn gwneud y pethau iawn dros ein cwsmeriaid, ein gweithwyr a’r cwmni, ac rydym wedi ymrwymo i addo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i drin eraill ag urddas a pharch bob amser. Drwy werthfawrogi a pharchu safbwyntiau a chyfraniadau ein cwsmeriaid a'n gweithwyr, byddwn yn meithrin diwylliant o barch gan y naill at y llall. Drwy gydweithio'n agored a gyda pharch, gallwn sicrhau bod ein gwerthoedd craidd yn dod yn brofiad byw i'n cwsmeriaid a'n gweithwyr.
Gallwch ddysgu mwy am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Dŵr Cymru yma.