Cynllun Cymorth Dyled Dŵr Uniongyrchol


Os ydych yn dioddef caledi ariannol ac mae arnoch arian i ni, gall cynllun Dyled Dŵr Uniongyrchol helpu chi trwy dalu eich taliadau dŵr a’ch dyled trwy eich budd-daliadau. Mae hyn yn golygu y bydd eich ôl-ddyledion yn lleihau yn raddol, gan eich helpu chi i gael rheolaeth dros eich arian.

Sut mae’n gweithio?

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i’ch galluogi chi i dalu eich taliadau dŵr trwy eich budd-daliadau os ydych chi’n dewis gwneud hynny.

Mae hyn yn golygu:

  • Ni fyddwch yn methu eich taliadau
  • Ni fydd angen i ni gymryd camau i adfer yr arian
  • Mae’n hwylus, am fod y taliadau’n cael eu codi o’ch budd-daliadau yn awtomatig

Disgownt o £25 ar y swm sy’n ddyledus

Dyma esiampl

Enghraifft yn unig yw hyn a gall rhandaliadau cwsmeriaid fod yn wahanol i’r isod.

Math o Dâl Swm
Taliadau’r flwyddyn gyfredol £300
Disgownt -£25
Dyledion £250
Cyfanswm  £525

Byddem yn ymestyn y cyfanswm dros 52 wythnos, felly gan gynnwys y gostyngiad byddech yn talu £8.99 yr wythnos a byddwch heb ddyled ar ddiwedd y cynllun. 

Ydych chi’n gymwys?

Gallech chi fod yn gymwys:

  1. Os yw eich cyfrif dŵr ar gyfer yr eiddo domestig lle’r ydych chi’n byw ar hyn o bryd
  2. Os oes gennych ddyled sy’n fwy na £50
  3. Os ydych chi’n derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:
    • Cymhorthdal Incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
    • Credyd Pensiwn
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
    • Credyd Cynhwysol

Gwnewch gais ar-lein am

ein cynllun Dyled Dŵr Uniongyrchol

Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych chi’n rhoi caniatâd i ni gyflwyno cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar eich rhan.

Cewch wybod a fu’ch cais yn llwyddiannus ai peidio cyn pen 6 i 8 wythnos ar ôl i chi gyflwyno’r cais. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn ni’n cadarnhau swm eich taliadau.

Os oes angen i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau’n uniongyrchol, darllenwch sut i gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Cynllun cymorth dyled dŵr uniongyrchol