Gorchymyn holi


Ar ôl i ni gael dyfarniad hoffem wybod mwy am eich amgylchiadau ariannol cyn penderfynu beth i'w wneud nesaf.

Byddwn bob amser yn ceisio eich annog i ddatgelu eich amgylchiadau ariannol yn wirfoddol.

Fodd bynnag, os nad ydym yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i'r Llys wneud gorchymyn yn gofyn i chi fod yn bresennol yn y Llys a datgelu'r manylion hyn ar lw. Bydd y rhain wedyn yn cael eu hanfon atom fel y cawn eu hadolygu a phenderfynu ar y ffordd orau o weithredu i adennill eich dyled.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.

Beth ddylwn i ei wneud ar ôl i orchymyn gael ei gyflwyno?

Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn ei ddarllen yn fanwl a cheisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth.

Dylech nodi amser a dyddiad y gwrandawiad a sicrhau eich bod yn bresennol. Os byddwch yn methu â bod yn bresennol ar ôl i chi gael y gorchymyn, caiff y Llys wneud gorchymyn pellach i’ch traddodi i garchar felly mae'n hanfodol eich bod yn ymdrin â'r mater.

Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i wneud cynnig o daliad. Fel arall, gallwch gyfeirio eich cynnig i'r Llys drwy'r gwrandawiad. Gellir hawlio eich treuliau teithio rhesymol ymlaen llaw ar gyfer dod i'r gwrandawiad.

Pam y cyflwynwyd dogfennau'r llys ar gyfer y gorchymyn holi i mi?

Mae'n rhaid i ni drefnu i'r dogfennau gael eu cyflwyno i chi fel y gall y Llys fod yn fodlon eich bod yn ymwybodol o'r gorchymyn.