Llythyr hawlio


Mae'r Llys yn ei gwneud yn ofynnol i ni anfon y llythyr hwn cyn y gallwn gyhoeddi hawliad yn eich erbyn. Byddem yn eich cynghori i ddarllen y llythyr hwn yn fanwl gan ei fod yn amlinellu pa gamau y gallwch eu cymryd i geisio sicrhau na fydd hawliad yn cael ei gyhoeddi yn eich erbyn. Bydd gennych 30 diwrnod i ymateb.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.

A allaf ofyn i rywun arall siarad â chi i drafod fy nghyfrif?

Dim ond os ydych wedi rhoi eich caniatâd ysgrifenedig i ni y gallwn drafod eich manylion personol â rhywun arall.

Os ydych chi'n cael trafferth wrth ymdrin â'r mater gallwch enwebu rhywun arall i'ch helpu. Gweler ein tudalen gwasanaethau blaenoriaeth am ragor o wybodaeth. Fel arall, efallai y byddwch eisiau penodi cynrychiolaeth gyfreithiol yn ffurfiol. Os ydych eisiau rhywun weithredu ar eich rhan yn y Llys, megis Cyfreithiwr, yna bydd yn rhaid iddo gofnodi gyda'r Llys fel un sy'n gweithredu ar eich rhan.

Beth mae cynigion i glirio'r ddyled yn ei olygu?

Rydym o'r farn mai camau cyfreithiol yw'r dewis pan fetho popeth arall. Rydym yn awyddus i weithio gyda chi i gytuno ar y ffordd orau o glirio'r ddyled cyn gynted â phosibl.

Yn ddelfrydol, hoffem i chi wneud hyn mewn un cyfandaliad ond rydym yn sylweddoli efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Fel dewis arall, cawn gytuno ar drefniant gyda chi i glirio'r ddyled dros gyfnod rhesymol o amser.

Bydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, er y byddwn yn ystyried ffactorau fel eich amgylchiadau personol, eich gallu i dalu'r symiau awgrymedig, y balans sy'n ddyledus gennych, eich ymddygiad talu yn y gorffennol a'ch taliadau dŵr a/neu garthffosiaeth barhaus.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau gwneud cynnig / trefniant?

Dylech lenwi ffurflenni 'Ateb' a 'Datganiad o Fodd' i weld yn union faint o arian sydd ar gael gennych i dalu tuag at y ddyled bob mis. Dylech anfon y ffurflen hon atom i gefnogi eich cynnig, ynghyd â thystiolaeth i brofi eich sefyllfa ariannol. Bydd hyn fel arfer ar ffurf papurau cyflog, prawf o fudd-daliadau a datganiadau banc dros dri mis. Rhaid anfon y rhain o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad yr anfonwyd y Llythyr Hawlio atoch.

Heb yr wybodaeth hon, ni allwn gadarnhau a yw eich cynnig yn deg ac yn rhesymol. Os na fyddwch yn anfon y wybodaeth ategol byddwn yn tybio y gallwch fforddio clirio'r ddyled mewn un taliad. O dan yr amgylchiadau hyn, ni fyddwn yn derbyn eich cynnig o drefniant rhandaliadau fel trefniant ad-dalu ffurfiol.

Beth petawn i mewn Trefniant Gwirfoddol Unigol (TGU) neu wedi cael fy ngwneud yn fethdalwr?

Dylech gysylltu â ni ar unwaith a darparu eich manylion TGU (Trefniant Gwirfoddol Unigol) / methdaliad.

Beth petawn i'n defnyddio cwmni rheoli dyledion i weithredu ar fy rhan?

Beth petawn i’n defnyddio cwmni rheoli dyledion i weithredu ar fy rhan? Dylech anfon ein llythyr atynt cyn gynted â phosibl. Mae angen iddynt gysylltu â ni a darparu'r Llythyr o Awdurdod priodol fel y gallwn drafod y mater â nhw. Ni fyddwn yn cysylltu â nhw ar eich rhan.