Gorfodaeth yr Uchel Lys


Mae gorfodaeth yr Uchel Lys yn ddull o adennill dyled dyfarniad. Byddwn yn gwneud cais i drosglwyddo’r dyfarniad o’r Llys Sirol i’r Uchel Lys. Bydd yr Uchel Lys yna’n rhoi ‘Gwrit Rheoli’ i ni. Mae hon yn warant a anfonir wedyn at Swyddogion Gorfodaeth yr Uchel Lys a fydd yn ymweld â’ch cartref ac yn mynd â nwyddau gwerth y warant.

Gweledigaeth Dŵr Cymru yw ennill ymddiriedaeth ei chwsmeriaid bob dydd ac mae’n bwysig i ni fod ein holl gwsmeriaid yn cael eu trin yn deg, gan gynnwys pan fyddwn yn adennill biliau heb eu talu. Sefydlwyd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i sicrhau bod y rhai sy’n destun camau gorfodi yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trin yn deg ac i ddarparu goruchwyliaeth annibynnol o’r diwydiant gorfodi, gan roi sylw arbennig i’r rhai sy’n cael trafferthion ariannol neu’n wynebu amgylchiadau bregus eraill.

Er bod y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid yn gwneud taliadau mewn pryd, rydym yn cyflogi asiantau gorfodi am gyfran fach o gyfrifon hwyr. Mae’n bwysig bod y sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn cynnal ein gwerthoedd o degwch ac ymddiriedaeth, ac felly, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl asiantaethau gorfodi sy’n gweithio ar ein rhan fod wedi’u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.

A gaf i ad-dalu’r ddyled i Ddŵr Cymru yn uniongyrchol os bydd Gorfodaeth yr Uchel Lys wedi’i chyfarwyddo?

Mae’n rhaid gwneud unrhyw gynigion o daliadau, naill ai drwy randaliadau neu setliadau cyfandaliad, yn uniongyrchol i’r swyddogion a fydd yn ceisio cyfarwyddiadau gennym. Dylech nodi y bydd y ddyled yn cynyddu ar ôl i’r swyddogion gael eu cyfarwyddo gan y bydd ffioedd ychwanegol yr Uchel Lys a ysgwyddir yn cael eu hychwanegu.

Ni allwn drafod ad-daliad gyda chi’n uniongyrchol unwaith y bydd Swyddogion Gorfodi’r Uchel Lys wedi’u cyfarwyddo.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.