Ffurflen hawlio


Mae Ffurflen Hawlio yn ddogfen gyfreithiol ffurfiol a ddefnyddir i wneud hawliad yn y Llys Sirol. Mae'r Ffurflen Hawlio yn nodi sail yr hawliad ynghyd â'r swm yr ydym yn ei hawlio gennych.

Rydym yn anfon hwn i'r Llys er mwyn iddo 'selio' a 'chyflwyno’ yr hawliad. Rhoddir rhif hawlio unigryw i'r hawliad. Yna bydd y Llys yn anfon yr hawliad atoch.

Pam y mae’r llys wedi anfon ffurflen hawlio ataf?

Oherwydd ein bod wedi cyflwyno hawliad (a ddisgrifir uchod), yn dilyn eich methiant i naill ai wneud taliad neu i gysylltu â ni gyda chynigion talu; neu nid oes trefniant ad-dalu ffurfiol wedi ei gytuno.

Beth fydd canlyniad Dyfarniad Llys Sirol?

Mae'r dyfarniadau'n aros ar y Gofrestr Dyfarniadau am chwe blynedd. Mae banciau a chwmnïau benthyciadau yn defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i benderfynu a ddylid rhoi credyd i chi. Tynnir eich dyfarniad oddi ar y gofrestr ar yr amod:

  • y talwyd y swm llawn o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad y dyfarniad
  • rhoddir o’r neilltu (ei dynnu'n ôl) gan y llys.

Os byddwch yn talu'r swm llawn o fewn 28 diwrnod gallwch ddileu eich dyfarniad drwy anfon ffi a phrawf o daliad i'r Llys. Os yw'n cymryd mwy na 28 diwrnod i chi dalu'r dyfarniad, gallwch anfon ffi a phrawf o daliad i sicrhau bod y dyfarniad wedi'i nodi’n 'fodlon' ar y gofrestr. Bydd yn aros am chwe blynedd ond bydd pobl/cwmnïau sy'n chwilio'r gofrestr yn gweld eich bod wedi’i dalu.

Gallwch chwilio'r gofrestr eich hun am ffi. Os yw eich manylion yn anghywir gallwch gael y Llys i wirio eich manylion. Mae rhai cwmnïau'n cynnig gwiriadau 'trwsio credyd', ond fel arfer gallwch ddatrys pethau eich hun yn rhatach drwy’r Llys.

Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.