Gorchmynion Arwystlo


Mae hyn yn golygu y gallech golli eich cartref os nad ydych yn ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych.

Os sicrheir gorchymyn arwystlo beth allai ddigwydd nesaf?

Ar ôl i Orchymyn Arwystlo gael ei wneud, gallwn wneud cais i'r Llys am orchymyn arall i'ch gorfodi i werthu eich cartref. Gelwir hyn yn Orchymyn i Werthu. Nid ydym eisiau gwneud hyn, felly byddwn bob amser yn edrych ar ddewisiadau eraill, fel gorfodaeth gan yr Uchel Lys.

Ym mhob achos, byddem bob amser yn argymell eich bod yn cynnig rhandaliadau i leihau'r ddyled neu o leiaf i sicrhau na fydd llog yn cael ei ychwanegu dros amser, a fydd yn cynyddu'r ddyled.

A allaf ad-dalu'r ddyled nawr?

Os hoffech osgoi unrhyw effaith ar eich eiddo yna cysylltwch â ni ar unwaith i drafod cynigion ad-dalu - gorau po gyntaf.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.