Tariff HelpU


Mae’r tariff HelpU yn helpu cartrefi incwm isel drwy roi terfyn ar y swm y mae’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r tariff HelpU yn helpu'r aelwydydd â’r incwm isaf yn ein rhanbarth. Os byddwch yn gymwys, byddwn yn rhoi uchafswm ar eich bil dŵr fel na fyddwch yn talu mwy na swm penodol am y flwyddyn.

Cost flynyddol HelpU yw £290.03 (£116.52 am ddŵr, £173.51 am garthffosiaeth). Mae’r tariff ar agor o 1 Awst 2020.

A ydych chi'n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer HelpU:

  • mae’n rhaid i’r cyflenwad dŵr i’r aelwyd fod at ddefnydd domestig yn unig,
  • mae’n rhaid bod rhywun ar yr aelwyd yn derbyn o leiaf un budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd,
  • mae’n rhaid i incwm cyfunol blynyddol yr aelwyd fod ar y trothwy neu o dan y trothwy ar gyfer maint yr aelwyd a ddangosir yn y tabl isod.
Maint yr Aelwyd Trothwy Incwm
1 £11,600
2 £17,400
3+ £18,000

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni nifer y bobl sy’n byw ar yr aelwyd (gan gynnwys plant) a chynnwys yr holl incwm y mae eich aelwyd yn ei gael gan feddianwyr sy’n byw yn eich eiddo sy’n 16 oed neu’n hŷn.

Dyma restr o’r mathau o brofion sy’n dibynnu ar brawf modd y mae’n rhaid i rywun ar yr aelwyd fod yn derbyn o leiaf un ohonynt:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ac eithrio teuluoedd sy'n cael yr elfen deuluol yn unig)
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai
  • Council Tax Reduction (based on income, not just a Single Persons Discount)

Nodyn Arbennig: Rydym yn eithrio rhai mathau o incwm o’r cyfrifiad incwm aelwyd cyfunol blynyddol:

  • Budd-dal Tai neu Elfen Tai Credyd Cynhwysol
  • Cymorth / Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
  • Premiymau Anabledd/Gofalwr, Grŵp Cymorth, Grŵp Gweithgaredd sy'n Gysylltiedig â Gwaith Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Premiymau Anabledd ar Gredydau Plant / Treth Gwaith
  • Premiymau Anabledd / Gofalwr ar Gredyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Swydd a Chymhorthdal Incwm
  • Elfennau Plentyn Anabl a Gallu Cyfyngedig ar gyfer Elfennau Gweithio Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Gofalwyr neu Elfen Gofalwyr Credyd Cynhwysol

Byddai hefyd angen i chi ailymgeisio am y tariff cyn diwedd pob cyfnod 12 mis (cewch ailymgeisio hyd at fis cyn y dyddiad dod i ben).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Telerau ac Amodau.

Gwneud cais ar-lein

drwy ein ffurflen gais HelpU.

Os ydych chi'n aelwyd incwm isel ac yn derbyn budd-daliadau prawf modd, efallai y byddwch chi'n gymwys i dderbyn cefnogaeth trwy ein tariff HelpU i leihau eich taliadau yn y dyfodol.

Cais ar-lein