ARBED DŴR

Newidiadau bach gwahaniaeth mawr.

Er bod digonedd o law yn disgyn o'r awyr, mae llawer o waith, ynni a chariad yn mynd i gael pob diferyn o ddŵr i chi.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae'r person cyfartalog yn defnyddio 176 litr o ddŵr y dydd, sef bron i 310 peint!

Mae Dŵr Cymru'n ffeindio ac yn trwsio 120 o ollyngiadau'r dydd i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli a'i wastraffu ar y rhwydwaith.

Arbed dŵr yn yr ystafell ymolchi

  • Cymrwch gawod fer yn lle bath Ac, os gallwch dreulio 4 munud yn y gawod yn lle 10, gallwch arbed tua 15,000 litr o ddŵr y flwyddyn, bydd hynny'n arbed tua £45 ar eich biliau dŵr os oes gennych fesurydd dŵr! Plws yr holl ynni sy'n cael ei wario ar gynhesu'r dŵr
  • Peidiwch â gadael y tap yn rhedeg wrth frwsio dannedd - Gallai cau'r tap wrth frwsio arbed tua 6,000 litr o ddŵr y flwyddyn, gwerth tua £20 o arbedion y flwyddyn.
  • Beth am ystyried gosod pen cawod sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon? Gall pen cawod sy'n arbed ynni arbed tua 10,000 litr o ddŵr y flwyddyn o gymharu â phen cawod safonol! I gael eich un chi, crëwch broffil ar ein cyfrifiannell Get Water Fit.
  • Os oes gennych doiled fflysh deuol, ffeindiwch pa fotwm yw'r fflysh mawr, a pheidiwch â'i ddefnyddio heblaw bod angen. Mae'r fflysh mawr yn defnyddio bron dwywaith yn fwy o ddŵr na'r fflysh bach. Ac yw’r dŵr yn euraid – mae fflysio’n ddianghenraid!
  • Toiled yn gollwng? Mae toiled sy'n gollwng yn gwastraffu rhwng 200 a 400 litr y dydd, neu 73,000 i 146,000 y flwyddyn – ac mae'n gallu bod yn fwy o lawer. Gallai trwsio'r broblem arbed rhwng £219 a £438 y flwyddyn! Ewch draw i'n rhaglen Cartref i weld sut y gallwn ni helpu.

Arbed dŵr yn y gegin

  • Defnyddiwch fowlen golchi llestri neu rhowch y plwg i mewn wrth olchi'r llestri yn hytrach na gadael i'r tap redeg. Ac ar ôl golchi'r llestri, defnyddiwch y dŵr sydd ar ôl i olchi unrhyw bethau plastig neu wydr cyn eu hailgylchu.
  • Trwsiwch unrhyw dapiau sy'n gollwng i osgoi gwastraffu dŵr. Oeddech chi'n gwybod bod tap sy'n diferu'n gallu gwastraffu dros 7,000 litr y flwyddyn? Gallai hynny gostio tua £20 y flwyddyn i chi os na gaiff ei thrwsio.
  • Arhoswch nes bod gennych lwyth llawn cyn defnyddio'r peiriant golchi llestri, a chofiwch wasgu'r botwm eco - mae hynny'n gallu arbed dros £15 y flwyddyn.
  • Peidiwch â gorlenwi'r tegell, mae berwi mwy nag sydd ei angen arnoch yn gwastraffu trydan, ac os byddwch chi'n taflu'r dŵr sydd dros ben i ffwrdd bob tro, gallai ychwanegu £5 at eich bil dŵr os oes mesurydd gennych.
  • Cadwch ddŵr tap yn yr oergell i gael diod oer ar unwaith heb orfod rhedeg y tap.
  • Os ydych chi'n prynu teclyn newydd sy'n defnyddio dŵr, cofiwch edrych i weld pa mor effeithlon yw e yn ei ddefnydd o ddŵr.

Arbed dŵr yn yr ardd

  • Defnyddiwch gan dyfrio neu bibell ddŵr (â sbardun) yn lle taenellwr i ddyfrio'r ardd.
  • Mae casgen ddŵr yn ffordd wych o gasglu dŵr glaw i'w ddefnyddio yn yr ardd – ar gael o'n siop Nwyddau.
  • Ychwanegwch grisialau dal dŵr at botiau, tybiau a basgedi crog er mwyn helpu i gadw'r compost yn llaith.
  • Peidiwch â thorri'r lawnt yn rhy fyr a defnyddiwch y toriadau gwaith fel tomwellt i wella iechyd y pridd.

Gwnewch gais am fesurydd dŵr

Peidiwch â thalu am fwy na'ch defnydd.

Eich Mesurydd Dŵr

7 diwrnod yr wythnos

Mae ein timau'n gweithio saith diwrnod yr wythnos, ac yn aml dros nos, i drwsio gollyngiadau ar unwaith.

Ond mae cael y dŵr trwy ein pibellau'n ddigon cyflym yn dipyn o her mewn rhai ardaloedd, ac mae hyn yn aml yn waeth yn ystod y cyfnodau prysur - gyda'r nos ac ar benwythnosau fel rheol.

Trwy ddefnyddio'r holl ddŵr sydd ei angen arnoch, gan ofalu i beidio â'i wastraffu, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth mawr.

Os byddwch yn sylwi ar ollyngiad, cysylltwch â ni ar 0800 052 0130 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos) neu cliciwch yma.

Tips i arbed dŵr

Ailddefnyddio dŵr

Generic Document Thumbnail

Effeithlonrwydd dŵr – pecyn i randdeiliaid

PDF, 1.7MB

Dyma sut rydyn ni'n rheoli adnoddau a sut y gallwch chi helpu.