Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr drafft Dŵr Cymru 2024


Yn Dŵr Cymru mae ein gweledigaeth yn glir; "ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd". Ein diben yw darparu gwasanaethau dŵr yfed a gwasanaethau amgylcheddol o ansawdd a gwerth uchel, er mwyn gwella llesiant ein wsmeriaid a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, nawr ac am genedlaethau i ddod.

Gwyddom fod cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu gwasanaethau diogel a dibynadwy o ansawdd uchel bob dydd, ni waeth beth sy'n cael ei daflu atom gan y twydd neu heriau gweithredol eraill. Mae angen iddynt hefyd allu ymddiried ynom i gynllunio ymhell o flaen llaw, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n gynaliadwy ac yn gydnerth dros ddegawdau lawer i ddod.

Ni yw'r chweched cwmni dŵr mwyaf yng Nghymru a Lloegr, yn cyflenwi gwasanaethau dŵr a gwastraff dŵr i ychydig dros dair miliwn o bobl (Ffigur 1). Rydym yn gweithredu amrywiaeth o ffynonellau dŵr i gyflenwi ein cwsmeriaid. Mae'r rhan fwyaf o'n dŵr yn cael ei gyflenwi o'n cronfeydd cronni dŵr er ein bod yn tynnu meintiau sylweddol o ffynonellau afonydd yr iseldir fel Afon Gwy yn ne-ddwyrain Cymru ac Afon Dyfrdwy yng ngogledd Cymru. Mae dŵr daear yn cyfrif am lai na phump y cant o'n cyflenwadau ar lefel Cwmni ond ar lefel leol, efallai mai dyma'r cyflenwad cyfan

Beth yw Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr?

Mae WRMP yn ddogfennau statudol y mae'n rhaid i bob cwmni dŵr ei llunio o leiaf unwaith bob pum mlynedd, ac sy'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau'r cyflenwad dŵr cyhoeddus ar gyfer y rhanbarth. Mae cynllunio adnoddau dŵr yn ymwneud â cheisio sicrhau bod digon o ddŵr yn cael ei gyflenwi i gartrefi a busnesau gan ddiogelu'r amgylchedd naturiol yr un pryd. Wrth wraidd hyn mae ein dealltwriaeth o faint o ddŵr y gallwn ei gymryd o afonydd, cronfeydd dŵr a thyllau turio a'i gyflenwi i gwsmeriaid, nid yn unig mewn 'blynyddoedd arferol' pan fyddwn yn disgwyl cyflenwadau da o law ar draws ein hardal gyflenwi ond hefyd mewn cyfnodau o sychder. Mae ein rhagolwg o faint o adnoddau dŵr sydd ar gael yn ystyried ffactorau amgylcheddol a newid hinsawdd sy'n lleihau faint o ddŵr y gellir ei gymryd yn gynaliadwy o'n ffynonellau dŵr

Mae angen i ni gydbwyso faint y gallwn ei gyflenwi o’i gymharu â’r galw presennol ac yn y dyfodol am ddŵr gan ddefnyddio'r data gorau sydd ar gael i ni. Pan fo cydbwysedd y galw am gyflenwad yn tynnu sylw at ddiffyg posibl, er mwyn ei ddatrys rydym yn nodi dewisiadau sydd naill ai'n lleihau'r galw neu'n cynyddu cyflenwadau. Fodd bynnag, dylai'r penderfyniad ynghylch pa ateb sydd orau edrych ar amcanion ehangach megis cynnal ansawdd da dŵr yfed, bodloni cyfeiriad polisi'r Llywodraeth neu ddewisiadau ehangach cwsmeriaid megis effaith amgylcheddol. Yna caiff y buddsoddiad sydd ei angen ei gyflwyno i gynllun busnes ein cwmni i geisio'r cyllid angenrheidiol.

Ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr 2024

Y dulliau gweithredu a ystyriwn yn allweddol i gyflawni'r Cynllun hwn yn llwyddiannus yw:

  • Cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, yn arbennig Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chyd-fynd â "Strategaeth Ddŵr i Gymru 2015" Llywodraeth Cymru
  • Darparu Cynllun Gwerth Gorau nad yw'n ystyried atebion cost leiaf yn unig, ond sy'n ceisio darparu budd ehangach i gwsmeriaid, cymdeithas a'r amgylchedd
  • Ymgorffori egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) o fewn ein Cynllun
  • Sicrhau bod barn ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid yn cael ei hystyried yn briodol, yn enwedig ar lefelau gwasanaeth a chost y Cynllun
  • Sicrhau bod ein penderfyniadau'n ystyried yr holl ddewisiadau sydd ar gael i leihau'r galw a/neu i gynyddu'r cyflenwad i sicrhau cyflenwad amgylcheddol cynaliadwy a diogel o ddŵr
  • Blaenoriaethu rheoli galw dros ddewisiadau’r ochr gyflenwi lle mae'r manteision ehangach o wneud hynny yn darparu ateb Gwerth Gorau. Fel rhan o hyn, rydym yn cynnig gostyngiad pellach o 10% mewn cyfraddau gollyngiadau yn ystod y cyfnod 2025-2030
  • Gwella cydnerthedd ein systemau cyflenwi yn wyneb pwysau fel sychder a newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni gyflwyno cynllun sy'n rhoi cydnerthedd yn wyneb digwyddiad sychder 1 mewn 200 mlynedd a byddwn yn nodi ein cynlluniau ar gyfer gwella ein cydnerthedd yn wyneb digwyddiad sychder 1 mewn 500 mlynedd
  • Sicrhau bod y Cynllun yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol ac i gyflawni asesiadau amgylcheddol gofynnol y Cynllun
  • Er mwyn sicrhau bod aliniad rhwng cynllun rhanbarthol Water Resources West a chynllun rheoli adnoddau dŵr ein cwmni ni wrth i ni ddatblygu'r cynlluniau hyn ochr yn ochr.
  • Ymchwilio i'r cyfleoedd i fasnachu adnoddau dŵr gyda thrydydd partïon pan fo hyn er budd ein cwsmeriaid ac nid ar draul yr amgylchedd

Ein Hymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar ein Cynllun drafft dros 14 wythnos rhwng 16 Tachwedd 2022 a 22 Chwefror 2023. Daeth cyfanswm o 14 ymateb i law. Cyhoeddwyd y prif adroddiad, ynghyd â’r tablau cynllunio, yr adroddiadau SEA/HRA a chrynodeb annhechnegol dwyieithog ar ein gwefan. Yn ystod y broses ymgynghori:

  • Cysylltwyd â dros 300 o sefydliadau
  • Cysylltwyd â Holl Aelodau perthnasol Senedd Cymru a Senedd San Steffan
  • Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r Cynllun trwy gyfryngau cymdeithasol Dŵr Cymru
  • Cyflwynwyd y Cynllun i Banel Ymgynghorol Annibynnol Dŵr Cymru ar yr Amgylchedd
  • Cynhaliwyd digwyddiad pwrpasol i gysylltu rhanddeiliaid (ar lein) ar 24 Ionawr 2023.

Cafwyd cynrychiolaeth o ugain o sefydliadau yn yr achlysur, a rhoddodd hyn gyfle iddynt drafod ein WRMP24 drafft yn fwy manwl cyn darparu unrhyw adborth ffurfiol trwy’r ymgynghoriad. Denodd yr ymgynghoriad gysylltiadau ystyrlon gan randdeiliaid, gyda’r partïon yn cynnwys rheoleiddwyr, sefydliadau amgylcheddol, awdurdodau lleol a chenedlaethol a grwpiau eraill. Trwy gynnwys y rhanddeiliaid hyn, bu modd i ni gael adborth beirniadol a safbwyntiau amgen sy’n gwneud ein penderfyniadau buddsoddi’n fwy cadarn, yn fwy gwybodus, ac yn y pendraw yn fwy effeithiol wrth fynd i’r afael â sialensiau cymhleth o ran adnoddau dŵr.

Ar ôl i’r ymgynghoriad gau, cyflwynwyd ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr drafft diwygiedig ar gyfer 2024 i Lywodraeth Cymru ar 23 Mehefin 2023. Gellir lawrlwytho’r adroddiad hwn a’r ddogfennaeth ategol isod.

Available downloads

Revised dWRMP24 Executive Summary

Lawrlwytho
585.2kB, PDF

Dwr Cymru Welsh Water draftWRMP24 Statement of Response

Lawrlwytho
1MB, PDF

Dwr Cymru Welsh Water Revised dWRMP24

Lawrlwytho
6.7MB, PDF

Dwr Cymru Welsh Water WRMP24Tables Revised Draft v2.2 redacted

Lawrlwytho
10.6MB, XLSX

DCWW revised draft WRMP BNG-NCA

Lawrlwytho
657kB, PDF

Habitats Regulations Assessment of the Water Resource Management Plan 2024

Lawrlwytho
1.2MB, PDF

DCWW rdWRMP Water Framework Directive compliance assessment

Lawrlwytho
2.8MB, PDF

DCWW WRMP24 Strategic Environmental Assessment

Lawrlwytho
10.4MB, PDF