Dŵr


Ein gwaith ni yw gofalu am eich dŵr, ac er bod glaw yn disgyn yn rhydd o’r awyr, rydym ni’n neilltuo llawer o waith, egni a chariad i gael pob diferyn o ddŵr i chi.

Rydym ni’n cyflenwi dŵr yfed o ansawdd uchel i fwy na 3 miliwn o gwsmeriaid mewn dros 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau ledled Cymru. Mae hynny’n golygu glanhau a danfon mwy nag 800 miliwn litr o ddŵr bob dydd.

Cyflenwi dŵr yfed diogel bob amser yw ein cyfrifoldeb pwysicaf ac mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’n dŵr tap fod yn rhydd o gemegau a bacteria niweidiol a bod blas da iddo

Gofalu am

ein dŵr

Mae Cymru yn ardal glaw trwm ac yn aml nid ydym ni’n meddwl am faint o ddŵr yr ydym ni’n ei ddefnyddio gan fod cyflenwad mor ddigonol o ddŵr glaw.

Ond mae llawer o waith yn cael ei wneud i gynhyrchu’r dŵr sy’n dod o’r tap. Gall lleihau faint o ddŵr yr ydych chi’n ei ddefnyddio helpu i leihau eich biliau a’n helpu ni i ofalu am ein hamgylchedd.

Helpwch ni i arbed dŵr
Brushing teeth

Mae Dŵr Cymru yn wahanol i gwmnïau dŵr eraill.

Nid oes gennym ni gyfranddalwyr, sy'n golygu ein bod ni’n ail-fuddsoddi pob ceiniog yr ydym ni’n ei hennill i gadw biliau’n isel gan ofalu am eich dŵr a'ch amgylchedd hyfryd – nawr, ac am flynyddoedd i ddod.

Rydym ni'n meddwl ei bod yn ffordd well o lawer o wneud pethau.

Dŵr Cymru. Eich cwmni dŵr dielw.

Amdanon Ni