Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein Polisi sydd yn ymwneud a lliniaru llifogydd. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn neu ddiddordeb mewn cymryd rhan, gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio riskmanagementauthority@dwrcymru.com.

Rhaglen Partneriaeth Lliniaru Llifogydd


Wrth i effeithiau newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth ac ymgripiad trefol roi mwy o bwysau ar ein rhwydweithiau draenio a charthffosydd, rydym ni o’r farn bod pwysigrwydd cynyddol i weithio ar y cyd er mwyn sicrhau atebion cynaliadwy i lifogydd dŵr wyneb.

Mae ein Rhaglen Partneriaeth Lliniaru Llifogydd yn rhoi'r cyfle i Awdurdodau Rheoli Risg a grwpiau cymunedol yn yr ardal yr ydym yn gweithredu ynddi weithio gyda ni i reoli'r risg o lifogydd dŵr wyneb, o ran ein hasedau ni ac asedau pobl eraill.

Mae ein polisi yma yn cynnwys yr egwyddorion sy'n cefnogi ein rhaglen partneriaeth lliniaru llifogydd ac yn darparu fframwaith clir a chyson fel y gall pobl eraill weithio ac ymgysylltu â ni yn llwyddiannus. Byddwn yn ystyried cyfrannu at brosiectau lliniaru llifogydd dŵr wyneb sydd o fudd hefyd i'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus neu Dŵr Cymru yn y ffyrdd canlynol:

  • Llai o berygl llifogydd i gymunedau sy'n agored i niwed;
  • Gostyngiad mewn llif afon brig (hyd at 25%) mewn nifer fach o ddalgylchoedd;
  • Llai o ddŵr wyneb yn mynd i'n rhwydweithiau mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt;
  • Digwyddiadau llifogydd yn cael llai o effaith ar ansawdd y dŵr;
  • Gwell enw da.

Rydym yn ceisio cyfrannu at atebion sy'n annog dull partneriaeth o reoli llifogydd dŵr wyneb drwy ddefnyddio technegau cynaliadwy megis rheoli llifogydd naturiol neu Systemau Draenio Cynaliadwy. I wneud cais, sicrhewch fod gennych brosiect ymarferol sy'n cyd-fynd ag o leiaf un o'r meini prawf budd a nodir uchod.

Mae’n rhaid cyflwyno pob cais trwy ddefnyddio ein ffurflen Datganiad o Ddiddordeb sydd ar gael yma a'i hanfon i’n cyfeiriad pwrpasol riskmanagementauthority@dwrcymru.com. Ar ôl iddynt ein cyrraedd ni, bydd pob cais yn mynd trwy ein proses asesu sy’n ystyried ein hamcanion busnes (cwsmeriaid, cydymffurfiaeth a chost). Ar ôl inni gwblhau ein hasesiad, byddwn yn cyflwyno ymateb ffurfiol i'r ymgeisydd.

Pan fo angen cymorth Dŵr Cymru ar ffurf darparu data, presenoldeb mewn cyfarfodydd ac yn y blaen, nid oes angen llenwi ffurflen gais, gallwch anfon eich cais trwy e-bost i riskmanagementauthority@dwrcymru.com.

Pan fydd ein cyllideb a ddyrannwyd ar gyfer y rhaglen wedi ei gwario, bydd y gronfa'n cau tan y flwyddyn ariannol ganlynol.

Os oes gennych ddiddordeb gwneud cais i Dŵr Cymru am gyfraniad at brosiect rheoli llifogydd dŵr wyneb addas a bod angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i'r adran Cwestiynau Cyffredin.

Pwy all wneud cais?

Gall Awdurdodau Rheoli Risg neu grwpiau sy'n cynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu wneud cais.

Beth sydd angen ichi ei wneud?

Y cyfan y mae’n rhaid ichi ei wneud yw lawrlwytho'r ffurflen gais yma a’i dychwelyd wedi’i llenwi drwy e-bost i riskmanagementauthority@dwrcymru.com

Bydd Grŵp Polisi Draenio Dŵr Cymru yn ystyried eich cais ac yn penderfynu a yw eich cais am gyllid Dŵr Cymru yn llwyddiannus ai peidio.

Beth yw’r meini prawf ar gyfer cael cyllid?

Byddwn yn ystyried prosiectau a fydd, drwy weithio mewn partneriaeth a thrwy atebion cynaliadwy, o fudd i'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus neu Dŵr Cymru yn y ffyrdd canlynol:

  • Llai o berygl llifogydd i gymunedau sy'n agored i niwed;
  • Gostyngiad mewn llif afon brig (hyd at 25%) mewn nifer fach o ddalgylchoedd;
  • Llai o ddŵr wyneb yn mynd i'n rhwydweithiau mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt;
  • Digwyddiadau llifogydd yn cael llai o effaith ar ansawdd y dŵr;
  • Gwell enw da.

Bydd prosiectau sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf uchod yn cael eu gwerthuso drwy ystyried:

  • Yr effeithiau ar Gwsmeriaid, Cydymffurfiaeth, y Gost;
  • I ba raddau y mae’r prosiect yn gydnaws â’n polisi a’r meysydd targed ar gyfer sicrhau budd;
  • Asesiad o'r gymhareb cost a budd o safbwynt Dŵr Cymru.

Faint o gyfraniad y bydd Dŵr Cymru yn ei wneud?

Bydd lefel y cyfraniad a wneir gan Dŵr Cymru yn seiliedig ar raddfa'r buddion a’u heffaith ddisgwyliedig ar berfformiad y rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus. Er hynny, pan fydd y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer y rhaglen wedi ei gwario, bydd y gronfa'n cau tan y flwyddyn ariannol ganlynol.

Ar ôl cyflwyno cais, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan Grŵp Polisi Draenio Dŵr Cymru.

  • Bydd y Grŵp Polisi Draenio yn ystyried y cais yn deg yn unol â’n meini prawf asesu a byddant yn penderfynu a yw'r cais yn llwyddiannus ai peidio.
  • Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod beth yw’r canlyniad ar ôl i’r Grŵp Polisi Draenio wneud penderfyniad.

Beth sy’n digwydd nesaf?

  • Anfonir Llythyr Cytundeb at yr ymgeisydd llwyddiannus, a bydd angen ei lofnodi a'i ddychwelyd inni o fewn 28 diwrnod i’w dderbyn.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am gyflawni'r prosiect. Ni fydd Dŵr Cymru yn ymgymryd ag unrhyw swyddogaeth sy’n cynnwys trefnu na rheoli wrth i’r prosiect gael ei gyflawni.
  • Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau pob caniatâd a chydsyniad, a byddant yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr holl risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect.
  • Mae'n bosibl y bydd dyfarniadau cyllid yn amodol ar gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd rhesymol gyda Dŵr Cymru.
  • Nodir swm y cyfraniad gan Dŵr Cymru a’r amserlen ar gyfer unrhyw gyfraniad gan Dŵr Cymru yn y Llythyr Cytundeb a gyflwynir i ymgeiswyr llwyddiannus. Sylwer, trwy ein prosesau awdurdodi taliadau arferol y telir unrhyw gyfraniadau gan amlaf.
  • Mae’n bosibl y bydd ceisiadau llwyddiannus yn destun archwiliad a drefnir ar ôl cwblhau'r prosiect er mwyn sicrhau bod y prosiect wedi ei gyflawni yn unol â'r cais a gymeradwywyd.