Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru


Os oes gennych fesurydd eisoes, neu wedi gofyn am un, mae tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar y swm y mae’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.

Sut mae'n gweithio? 

Mae tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar eich bil mesuredig blynyddol fel na fyddwch yn talu dros swm penodol ar gyfer y flwyddyn, ni waeth faint yr ydych yn ei ddefnyddio.

Taliad Terfyn Bil - WaterSure Cymru o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 yw £396.68 (£153.66 ar gyfer dŵr, £243.02 ar gyfer carthffosiaeth). 

Ydw i'n gymwys? 

Mae'r cynllun ar gael i gwsmeriaid sydd â mesurydd dŵr yn barod, neu sy'n penderfynu cael mesurydd dŵr wedi'i osod. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal cymwys neu gredyd treth a naill ai: 

  1. bod â 3 neu fwy o blant dan 19 oed yn byw yn eich cartref y cewch hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, neu 
  2. fod ag aelod yn eich cartref â chyflwr meddygol sy’n golygu bod angen defnyddio llawer mwy o ddŵr nag arfer 

Budd-daliadau cymwys 

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Plant (ac eithrio teuluoedd sy'n cael yr elfen deuluol yn unig)
  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Cyflyrau meddygol 

Gall cyflyrau cyffredin y mae angen defnyddio llawer mwy o ddŵr nag arfer gynnwys: 

  • Digroeni (clefyd croen sy'n pilio)
  • Croen diferol (ecsema, soriasis, briwiau chwyddedig)
  • Anymataliaeth
  • Stoma'r Abdomen
  • Clefyd Crohn
  • Methiant Arennol sy'n gofyn am gael dialysis yn y cartref (heblaw pan fo'r awdurdod iechyd yn cyfrannu at gost y dialysis)

Arall: cyflwr meddygol arall sy'n golygu bod angen defnyddio llawer mwy o ddŵr ychwanegol

Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer WaterSure Cymru os:

  • Nad oes mesurydd dŵr wedi'i osod yn eich eiddo. Os hoffech gael mesurydd wedi'i osod er mwyn bod yn gymwys, llenwch y ffurflen gais, gan gynnwys y cais am fesurydd ar dudalen 5.
  • Rydych yn dyfrio eich gardd gydag offer na ddelir â llaw megis taenellwr neu system ddyfrhau ddomestig.
  • Mae gennych bwll nofio neu bwll sy'n gallu dal mwy na 10,000 litr.
  • Nid hwn yw eich prif gartref.
  • Caiff eich eiddo ei ddefnyddio at ddibenion masnachol..
  • Rydych yn rhannu taliadau eich bil gyda'ch cymydog/cymdogion.

Gwnewch gais am ein

tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru

Gallwch wneud cais drwy lawrlwytho ein ffurflen gais Terfyn Bil - WaterSure Cymru.

Dysgu mwy