Y Sicrwydd Debyd Uniongyrchol


  • Mae pob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol yn cynnig y Sicrwydd hwn
  • Os bydd unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol bydd Dŵr Cymru yn eich hysbysu 5 diwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif gael ei ddebydu neu yn unol â'r hyn a gytunwyd yn wahanol. Os ydych yn gofyn i Dŵr Cymru gasglu taliad, bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael i roi i chi ar adeg y cais
  • Os bydd Dŵr Cymru neu eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud camgymeriad o ran talu eich Debyd Uniongyrchol mae gennych hawl i gael ad-daliad llawn ac ar unwaith o’r swm a dalwyd o’ch banc neu gymdeithas adeiladu
  • Os ydych yn cael ad-daliad nad oes gennych hawl iddo, mae’n rhaid i chi ei dalu yn ôl pan fo Dŵr Cymru yn gofyn i chi wneud hynny
  • Cewch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw bryd drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Byddwch cystal â rhoi gwybod i ninnau hefyd.