Symud cartref


Gall symud cartref fod yn straen ond mae rhoi gwybod i ni yn hawdd. Yma gallwch chi greu cyfrif newydd neu roi gwybod i ni eich bod yn symud os ydych eisoes yn gwsmer.

Creu cyfrif

am y tro cyntaf?

Croeso i Dŵr Cymru! Gallwch greu cyfrif bilio newydd ar-lein yma.

Greu cyfrif

Os na allwch gwblhau eich symudiad ar-lein, dyma ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

1. Cysylltwch

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

Sgwrs Fyw

Os ydych chi angen cyngor, mae ein gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid yma i’ch helpu. 8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn.

Agor Sgwrs Fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs Fyw

Unrhyw gwestiynau eraill?

Os nad ydych chi’n gallu gadael i ni wybod ar-lein, yna siaradwch â gweithredwr gwasanaeth cwsmeriaid

0800 052 6058

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn

Ein hamseroedd ffonio prysuraf

Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.

Pryd i roi gwybod i ni eich bod chi wedi symud

Os oes gan eich eiddo presennol neu’ch eiddo newydd fesurydd dŵr:

  • Rhowch wybod i ni hyd at ddau ddiwrnod ymlaen llaw eich bod yn symud.
  • Cofiwch gymryd darlleniad terfynol neu gyntaf ar y diwrnod y byddwch yn symud. Yna gallwn eich bilio am yr hyn yr ydych wedi’i ddefnyddio pan yr oeddech yn gyfrifol.
  • Os na allwch gymryd darlleniad eich hun, rhowch wybod i ni 10 diwrnod gwaith cyn i chi symud. Yna gallwn drefnu i ddarllenydd mesurydd ymweld ar y diwrnod y byddwch yn symud, i gymryd darlleniad ar eich rhan.

Os nad oes gan eich eiddo presennol neu eiddo newydd fesurydd dŵr:

  • Gallwch roi gwybod i ni hyd at 14 diwrnod cyn i chi symud cartref, os wnewch chi ffonio neu sgwrsio â ni yn fyw.

Cyngor i fyfyrwyr

Symud cartref

Os ydych chi'n symud i'ch llety newydd, mae'r canllawiau a'r ffurflen uchod hefyd yn berthnasol i chi. Os hoffech ddarganfod mwy, rydym ni wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin defnyddiol.
Cyngor i Fyfyrwyr