Paratowch am y Gaeaf

Paratoi eich cartref am dywydd oer.

Mae'r gaeaf yn gallu bod yn amser hudolus, ond mae tywydd oer iawn yn gallu achosi problemau mawr os nad ydych chi’n barod.

Pan fo’r tymheredd yn gostwng, gall y dŵr yn eich pibellau a’ch tapiau rewi, gan atal eich cyflenwad dŵr a chwalu’ch pibellau.

Pibellau a thapiau yn yr awyr agored, neu mewn llefydd oer iawn fel llofft neu garej, sydd fwyaf tebygol o rewi, a phan fo dŵr yn rhewi, mae’n ehangu, sy’n gallu cracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed.

Y newyddion da yw bod yna bethau syml iawn y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cartref neu’ch busnes yn barod am y gaeaf.

Paratoi eich cartref am y gaeaf

Mae hi'n bwysig paratoi eich cartref am fisoedd oer y gaeaf. Dyma ambell i awgrym i’ch helpu chi i chi sicrhau bod eich cartref yn barod am y gaeaf.

Dysgu mwy

Pibellau'n rhewi yn y cartref

Cymorth a chyngor os ffeindiwch chi fod pibellau eich cartref wedi rhewi, neu os yw'ch pibellau wedi byrstio yn y tywydd oer.

Dysgu mwy

Amddiffynnwch eich aelwyd

a’ch anwyliaid y gaeaf hwn

Trwy ymuno â’n Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth am ddim heddiw, cewch ddŵr potel os oes toriad yn eich cyflenwad, dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth, sicrwydd rhag galwyr ffug, a llawer mwy!

Dysgu mwy

Amddiffyn eich system wresogi os yw'ch cyflenwad yn methu

Os yw eich cyflenwad yn methu, mae'n bwysig gofalu am eich system wresogi. Mae angen gofalu am wahanol systemau gwresogi mewn gwahanol ffyrdd. Chwiliwch i weld pa fath o system sydd gennych chi a dilynwch y cynghorion isod.

Dysgu mwy

Sut i baratoi eich sefydliad

ar gyfer y gaeaf

Mae rhai safleoedd fel ysgolion, canolfannau cymunedol a mannau addoli yn arbennig o agored i bibellau’n byrstio yn ystod y tywydd oer. Dysgwch fwy a diogelwch eich busnes yma

Dysgu mwy