Toiledau’n Cydymffurfio


Ydych chi’n gwybod am y ffordd newydd, amgen o gydymffurfio â rheoliadau toiledau?

Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gosod gwaith plymio newydd gydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Fodd bynnag, o 1 Ionawr 2020 ymlaen, mae ffordd newydd, amgen o fodloni’r rheoliadau hyn ar gyfer toiledau sydd newydd eu gosod.

Mae cytundeb newydd, o’r enw’r ‘Cytundeb Interim Gwirfoddol’, sy’n cyflwyno safonau amgen derbyniol i warchod rhag ôl-lifiad ar gyfer toiledau sydd newydd eu gosod. Mae’n bwysig nodi nad yw’r safonau hyn yn cymryd lle’r angen am drefniant bwlch aer AUK1. Yr unig beth a wnant yw cynnig ffordd arall o fodloni’r rheoliadau. Hefyd, dim ond am gyfnod o 6 mis mae’r trefniant yn ei le.

Os ydych yn gosod toiledau newydd yng Nghymru neu yn Lloegr, mae angen i chi sicrhau bod unrhyw doiledau newydd a osodir yn cynnwys dull o warchod rhag ôl-lifiad sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau er mwyn lleihau’r peryglon i iechyd y cyhoedd.

Rydym ni, yn Dŵr Cymru, yn gyfrifol wedyn am weithredu’r rheoliadau hyn pan fyddwn yn archwilio gwaith plymio. Byddwn yn derbyn toiledau a osodir yn unol â threfniadau bwlch aer AUK1 neu yn unol â’r safonau a nodir yn y Cytundeb Interim Gwirfoddol.

Mae manylion llawn y Cytundeb Interim Gwirfoddol i’w gweld yma.

Oes gennych chi gwestiynau? Anfonwch neges atom i waterregulations@dwrcymru.com ac fe wnawn ni ateb eich cwestiynau.