Ydych chi'n blymwr? Mae'ch angen chi arnom ni!


Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n annog pawb i ddefnyddio gweithwyr cymwys a phrofiadol wrth gyflawni unrhyw waith plymio. Dyna pam ein bod ni'n annog ein holl gwsmeriaid i ddefnyddio aelodau o WaterSafe.

WaterSafe yw'r gofrestr genedlaethol o blymwyr cymeradwy, sy'n gweithredu ar ran Cynlluniau Contractwyr Cymeradwy’r DU ac mae’n gydnabyddedig yn y Diwydiant Dŵr.

Dyma fideo byr sy'n cynnig rhagor o wybodaeth am beth mae WaterSafe yn ei olygu i ni a'n cwsmeriaid.

Pam WaterSafe?

Gall plymwyr cymwys ymuno'n rhad ac am ddim, a phan fyddwch wedi cael sêl bendith WaterSafe, cewch:

  • Eich hyrwyddo am ddim gan Ddŵr Cymru yn eich ardal leol
  • Rhoi sicrwydd i gwsmeriaid eich bod chi'n gymwys, a'n bod ni'n ymddiried ynoch i wneud y gwaith
  • Canllawiau a gwybodaeth am ddim fel aelodau sy'n gweithio yn yr ardaloedd rydyn ni'n eu gwasanaethu
  • Yr hawl i ddefnyddio brand WaterSafe yn unol â'u canllawiau.

Os oes gennych chi'r sgiliau a'r cymwysterau perthnasol, rydyn ni yn Dŵr Cymru'n cynnig cwrs hyfforddi undydd i chi ennill cymhwyster yn y Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999, a hynny'n hollol rad ac am ddim hefyd.

Gofynion cenedlaethol ar gyfer dylunio, gosod a chynnal systemau plymio, ffitiadau dŵr a chyfarpar sy'n defnyddio dŵr yw'r Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Trwy ddod yn aelod, gallwch ardystio bod eich gwaith yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999. Cewch eich eithrio hefyd rhag gorfod hysbysu am rai mathau o waith plymio lle byddai hynny'n ofynion cyfreithiol fel arall.

Felly os oes gennych chi gymhwyster plymio ac yswiriant, ond nad oes gennych chi'r cymhwyster penodol yma, gallwn ni gynnig pecyn hyfforddiant undydd i chi yn hollol rad ac am ddim!

At hynny, yn Dŵr Cymru, gallwn ni helpu i’ch cofrestru fel plymwr cymeradwy WaterSafe. Byddwn ni'n eich tywys trwy'r gwaith papur yn rhan o'r hyfforddiant, ac yn trefnu cyflwyniad ar y safle sy'n gweithio i chi. Mae hi'n haws nag erioed ymuno â WaterSafe, felly bachwch ar y cyfle nawr.

Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n gymwys i fod yn aelod neu beidio, cysylltwch â ni neu ewch yn syth at WaterSafe i holi. Mae'r rhestr o gymwysterau cydnabyddedig a'r cyfarwyddiadau ar gyfer ymuno ar y wefan yma.

Gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio waterregulations@dwrcymru.com.

Mae defnyddio plymwr WaterSafe yn rhoi tawelwch meddwl i gwsmeriaid y caiff y gwaith ei gyflawni gan gontractwr â'r cymwysterau a'r yswiriant priodol ynghyd â dealltwriaeth o'r Rheoliadau. Gallwch chwilio am eich plymwr WaterSafe lleol chi ar waelod y dudalen hon.