Cyngor a chanllawiau


Gall plymio gwael achosi problemau difrifol iawn, megis niwed i’r iechyd, a gallai arwain at ddŵr o ansawdd gwael.

Mae’r rheoliadau wedi bod ar waith ers 1999. Cyn hynny, roedd yr is-ddeddfau rheoli dŵr mewn grym (neu ‘ yr is-ddeddfau’). Mae’n rhaid i unrhyw systemau neu ffitiadau plymio a osodwyd ar ôl 1999 gydymffurfio â’r rheoliadau, mae unrhyw beth a osodwyd cyn hynny yn destun yr is-ddeddfau a oedd ar waith bryd hynny.

Pwy sydd wedi’u cynnwys yn y rheoliadau?

Gallai fod angen i’r holl gwsmeriaid sy’n cael dŵr yfed gennym ni, neu sydd angen cyflenwad dŵr yfed wybod am y rheoliadau, yn ogystal ag unrhyw blymwyr a gosodwyr sy’n ymwneud â hyn.

Hefyd, gallai fod angen i berchnogion a meddianwyr adeiladau, datblygwyr, dylunwyr a phenseiri wybod am y rheoliadau. Gallai fod angen i gwsmeriaid sy’n berchen ar eu cyflenwad dŵr eu hunain wybod am y rheoliadau hyd yn oed (e.e. y rheini sy’n cael dŵr yfed o’u ffynnon/twll turio eu hunain), os ydynt hefyd wedi’u cysylltu â’n cyflenwad dŵr ni, neu’n bwriadu cysylltu ag ef.

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y rheoliadau?

Mae’r rheoliadau yn egluro sut i ddylunio, ffitio a gofalu am systemau plymio a ffitiadau. Maent yn ystyried ein diogelwch, a’u nod yw ein hamddiffyn rhag problemau megis:

  • Llygru (e.e. cemegion drwg yn ein dŵr yfed);
  • Gwastraffu (e.e. systemau plymio sy’n gollwng); a
  • Cham-ddefnyddio; defnydd afraid; a mesuriadau gwallus (e.e. gosod mesuryddion dŵr yn y lle anghywir, neu bobl sy’n defnyddio'r cyflenwad dŵr yfed yn anghyfreithlon).

Amddiffyn cwsmeriaid rhag cyflenwad dŵr yfed llygredig yw un o’n pryderon pennaf. Pan fyddwn yn ymweld â chwsmeriaid, byddwn yn cynnal asesiad risg, er mwyn helpu i ddod o hyd i’r problemau a’u datrys. Gallai hyn gynnwys atal dŵr rhag dychwelyd yn ôl i’r pibellau dŵr drwy ffitio falfiau atal, neu ffitio bylchau aer.

Ein Tîm Rheoliadau Dŵr

Mae gan Dŵr Cymru dîm rheoliadau dŵr sy'n rheoli cydymffurfiad â'r rheoliadau.

Mae ein swyddogion rheoliadau dŵr yn cynnal archwiliadau o safleoedd â chysylltiadau newydd a chysylltiadau presennol hefyd. Byddant yn:

  • Archwilio eich system / gosodiad plymio
  • Asesu'r peryglon ac felly lefel y risg sy'n bodoli mewn adeiladau
  • Nodi unrhyw ddiffyg cydymffurfiad â'r rheoliadau
  • Argymell pa fesurau diogelu y mae angen eu gweithredu i fynd i'r afael â'r diffyg cydymffurfiad.

Os caiff unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio â'r rheoliadau eu nodi, mae angen eu datrys cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y diffyg cydymffurfiad, gallai ein camau amrywio o atal neu ddatgysylltu cyflenwad dŵr i gwsmer ar unwaith, hyd at gyflwyno hysbysiad 28 diwrnod i ddatrys y diffyg cydymffurfiad, hyd at erlyniadau posibl.

Mae ein polisi gorfodi cwsmeriaid ar gael isod. (Gallwch weld fersiwn Gymraeg ein polisi isod.)

Cyfrifoldeb y cwsmer yw gwneud unrhyw waith sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r rheoliadau. Fodd bynnag, ceir amgylchiadau eraill pan efallai na fydd y cwsmer yn gyfrifol. Bydd hyn yn cael ei esbonio'n fwy manwl gan y swyddog rheoliadau dŵr ar y pryd.

Ni allwn ddarparu canllawiau na chymorth o ran anghydfod gyda'ch gosodwr, ond gallwn gynnig cyngor ar ddehongli'r rheoliadau dŵr. Gallwch gysylltu â'n tîm rheoliadau yn WaterRegulations@dwrcymru.com

WIAPS

Gweithredir Cynllun Plymwyr Cymeradwy’r Diwydiant Dŵr (WIAPS) gan y Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr ar ran nifer o gwmnïau dŵr.

Mae hwn yn un o saith cynllun contractwyr cymeradwy sy’n bodoli yn y DU. Nid yw pob busnes plymio a gofrestrir â WIAPS wedi’i gofrestru â WaterSafe, felly gallai fod gan WIAPS blymwyr ychwanegol yn eich ardal chi. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch WIAPS a sut y gall plymwyr gofrestru ar wefan Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr yma. Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys rhestr o weithwyr paratoi’r tir sy’n gymwys i wneud gwaith ar wasanaethau dŵr yn yr awyr agored yn unig a gweithwyr arbenigol eraill sy’n gweithio mewn sectorau dynodedig.

Os nad ydych yn blymwr neu’n gwmni plymio cymeradwy byddem yn cynghori eich bod yn cael gafael ar gopïau o’r rheoliadau, unrhyw ddiwygiadau, a dogfennau canllawiau perthnasol ar y rheoliadau dŵr a gyflenwir gan y Llywodraeth neu Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr, i helpu i sicrhau eich bod yn gweithio mewn modd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau.

Dylid nodi, o ran gosodiadau, ffitiadau a pheiriannau plymio, nad yw’n anghyfreithlon i werthu eitemau anaddas, ond gan ddibynnu ar sut y cânt eu defnyddio mewn gwaith plymio a gosodiadau, gallai hynny gael ei ystyried yn anghyfreithlon. Dangosir ffitiadau a deunyddiau addas ar wefan Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr (gweler hefyd yr Adran ‘Gwybodaeth a Chyngor Cyffredinol’) sy’n rhoi manylion am eu nodweddion a’r dull o’u gosod. Dylai plymwr neu gwmni cymeradwy fod yn ymwybodol o hyn a dylai fynd ati i chwilio ar wefan Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr  i gael yr wybodaeth hon er mwyn sicrhau y defnyddir y ffitiadau a’r deunyddiau cywir a’u bod yn cael eu gosod yn unol â’r cyfarwyddiadau.

Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr

Y Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr yw corff canolog y DU sy’n hwyluso cydymffurfiaeth â’r rheoliadau cyflenwi dŵr (ffitiadau dŵr), ac mae pob cyflenwr dŵr y DU yn tanysgrifio iddo.

Mae Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr yn esbonio mai ei ddiben yw cyfrannu at ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy atal halogi cyflenwadau dŵr cyhoeddus ac annog defnydd effeithlon o ddŵr drwy hyrwyddo a hwyluso cydymffurfiaeth â Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) ac is-ddeddfau yr Alban.

Yn ymarferol, golyga hyn fod Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr yn cefnogi cyflenwyr dŵr y DU i ddarparu dull cenedlaethol cyson o ddehongli’r rheoliadau, cefnogi cynlluniau cymeradwyo er mwyn i unigolion a chwmnïau allu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau, a chynrychioli cwmnïau dŵr y DU drwy ddatblygu canllawiau, cod ymarfer a safonau yn ganolog.

Mae Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr yn darparu cyfoeth o wybodaeth, cysylltiadau a chyhoeddiadau drwy ei wefan. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhestr gyfredol o gynhyrchion a deunyddiau gweithgynhyrchwyr cymeradwy ynghyd â dulliau gosod, i’w defnyddio mewn systemau a gosodiadau plymio, sy’n ganllaw defnyddiol i blymwyr a gosodwyr.

Gall Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr hefyd ddarparu canllawiau o ran ymholiadau ynghylch dehongliad y rheoliadau, a darparu gwybodaeth am sut y gellid datrys anghydfod rhwng cwsmeriaid a phartïon perthnasol sy’n ymwneud â systemau plymio. Mae hyn yn cynnwys, am gost fach, arweiniad cynhwysfawr i reoliadau dŵr sy’n cynnwys y rheoliadau ffitiadau dŵr a chymalau canllawiau’r rheoleiddwyr yn ogystal ag argymhellion y diwydiant cyflenwi a hefyd mwy na 100 o ddarluniau lliw y gellir eu cael gan Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr .

Mae un o ychwanegiadau polisi diweddar Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr  ar gael yma, ac mae hwn yn amlinellu’r disgwyliadau diweddaraf sydd ar gwmnïau dŵr o ran sut y dylent weithredu wrth orfodi’r rheoliadau, a hefyd sut y byddant yn cael eu mesur neu eu cymharu â’i gilydd yn y dyfodol.

Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr address is:
Unit 13, Willow Road,
Pen-y-fan Industrial Estate, Crumlin,
Gwent, NP11 4EG,
Telephone: 01495 248 454


Yn rhan o gydymffurfio â pholisi diweddaraf Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr , mae’n rhaid i bob cwmni dŵr gynhyrchu polisi gorfodi i gwsmeriaid yn amlinellu sut y caiff y rheoliadau eu gorfodi, a ddangosir isod.

Polisi Gorfodi Rheoliadau Dŵr

PDF, 318.5kB

$name

Cyflenwadau dwr preifat

Lawrlwytho
228.3kB, PDF

Y Rheoliadau Dŵr

Lawrlwytho
437.6kB, PDF

Hysbysiadau am Dorri’r Rheoliadau Dŵr

Lawrlwytho
86.3kB, PDF

Y Rheoliadau Dwr - Gwybodaeth i Ddatblygwyr Dylunwyr a Gosodwyr

Lawrlwytho
638.8kB, PDF

Gwybodaeth i gadw eich safle amaethyddol yn ddiogel

Lawrlwytho
1.1MB, PDF

Y Rheoliadau Dŵr - Sut maen nhw’n effeithio ar eich Busnes

Lawrlwytho
349.4kB, PDF