Falfiau Parth Pwysedd Is (RPZ)


Os oes falf RPZ wedi ei gosod yn eich eiddo neu os ydych chi'n credu bod angen gosod un, yna mae rhai pethau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn cychwyn.

Ffitiad a ddefnyddir i amddiffyn rhag adlif mewn systemau plymio risg uwch yw Falfiau Parth Pwysedd Is a elwir yn aml yn falfiau RPZ neu'n ddyfeisiau Math BA. Mae gan adlif y potensial i halogi dŵr, felly mae hi'n ofyniad cyfreithiol eich bod yn gosod yr amddiffyniad cywir mewn unrhyw osodiad plymio.

Yn wahanol i fathau eraill o amddiffyniad rhag adlif fel y trefniadau bwlch aer a ddefnyddir mewn gosodiadau risg uwch, dyfais fecanyddol yw falf RPZ ac mae angen ei phrofi a'i chynnal a'i chadw yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu'r lefelau angenrheidiol o amddiffyniad.

Gosod Falf RPZ

O dan y Rheoliadau, rhaid ein hysbysu am osod unrhyw falf RPZ, sy'n golygu na chewch osod falf heb roi gwybod i ni'n gyntaf.

Pan fyddwn ni'n rhoi caniatâd i osod falf RPZ, rhaid i'n cwsmer gytuno i'n Hamodau a Thelerau Gosod a bodloni unrhyw amodau a orfodir mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig.

Gallwch ein hysbysu ni trwy lenwi ein ffurflen a'i dychwelyd. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen isod. Pan fyddwch wedi ei hysbysu ni, byddwn ni'n cysylltu â chi naill ai i roi caniatâd neu i ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen.

Ffurflen Hysbysu am Osodiad RPZ

PDF, 75.4kB

Wrth osod falf RPZ, byddwch am fod yn sicr eich bod chi'n defnyddio gosodwr sy'n gwybod digon amdanyn nhw. Profwyr achrededig yn unig gaiff gomisiynu a phrofi falfiau RPZ, fel y rhai y mae WaterSafe yn eu rhestru ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Arbenigol.

Cynnal a chadw Falf RPZ

Nid yw falf RPZ yn ddyfais amddiffyn rhag adlif y gallwch ei gosod ac anghofio amdani. Rhaid profi'r ffitiadau o leiaf unwaith bob 12 mis er mwyn cynnal cydymffurfiaeth, ac mae hynny'n ofyniad o dan Ddull Gosod Cymeradwy'r Ymgymerwyr Dŵr, AIM-08-01.

Am hynny, bydd angen i chi gadw cofnodion o'r profion blynyddol a sicrhau eich bod chi, neu eich profwr, yn cyflwyno tystiolaeth o bob prawf i ni. Rydyn ni'n cadw cofnod o'r holl Falfiau RPZ rydyn ni'n cael gwybod amdanynt ac yn monitro’u statws profi.

Bydd angen hefyd i chi feddwl am archwilio'r falf yn rheolaidd am arwyddion o draul a diffyg a rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.

Ansicr a oes angen Falf RPZ arnoch?

Os ydych chi wedi cael eich cynghori i osod Falf RPZ ond yn ansicr a oes ei hangen ai peidio, cysylltwch â ni i ofyn am gyngor. Mae yna opsiynau eraill ar gael i ddarparu'r lefel angenrheidiol o amddiffyniad rhag adlif, ac mae gan rai ohonynt lai o ofynion penodol ar gyfer profi a chynnal a chadw.

Gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio waterregulations@dwrcymru.com neu trwy roi galwad i ni ar 01792 841572.

Os hoffech gael cyngor annibynnol am Falfiau RPZ, mae Water Regs UK yn cynnig gwasanaeth cynghori technegol ac yn cyhoeddi canllawiau a gydnabyddir gan y diwydiant ar eu gwefan. Gallwch eu ffonio nhw ar 01495 983010 neu e-bostio info@waterregsuk.co.uk.