Hysbysu – Rhoi gwybod i ni


Oeddech chi'n gwybod hwyrach fod angen i chi roi gwybod i ni am waith plymio yn eich eiddo cyn cychwyn arni?

Mae Rheoliad 5 o Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999 yn gosod cyfrifoldeb ar unrhyw berson sy'n gosod ffitiadau dŵr i'n hysbysu ni os yw'r gwaith yn bodloni rhai meini prawf penodol.

I'ch helpu chi i gydymffurfio, rydyn ni wedi rhestru’r mathau o waith y mae angen ein hysbysu ni amdanynt isod:

Mae hysbysu'n rhoi'r cyfle i ni helpu i sicrhau bod eich gosodiad yn cael ei wneud yn iawn. Wrth roi caniatâd, byddwn ni'n darparu arweiniad i chi ac yn pennu amodau i'ch helpu chi i gydymffurfio lle bo angen.

Mae methu â'n hysbysu am unrhyw un o'r darnau uchod o waith yn drosedd o dan y Rheoliadau, sy'n golygu y gallai'r sawl sy'n gyfrifol gael dirwy neu gofnod troseddol. Mae'n bwysig cofio hefyd, os nad yw'r gwaith yn cydymffurfio, mae'n debygol o gostio mwy i'w gywiro wedyn.

Byddwch yn WaterSafe

Os ydych chi'n cynllunio unrhyw waith plymio ac yn ansicr a oes angen ein hysbysu ai peidio, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n defnyddio plymwr proffesiynol cymwys ag yswiriant priodol, fel y rhai y sydd ar gofrestr WaterSafe.

Mae gan blymwyr WaterSafe wybodaeth ardystiedig am y Rheoliadau a dylent fod yn gallu dweud wrthych a oes angen ein hysbysu am y gwaith ai peidio. At hynny, maent wedi eu heithrio rhag gorfod hysbysu am rhai mathau o waith hefyd a byddant yn rhoi tystysgrif i chi ar ddiwedd y gwaith i brofi bod yr hyn y maent wedi ei wneud yn cydymffurfio â’r gofynion. Lle bo angen, byddan nhw'n rhoi copi o’r dystysgrif i ni hefyd yn hytrach na’n hysbysu ymlaen llaw.

Gallwch ffeindio’ch plymwr WaterSafe lleol trwy ddefnyddio’r bar chwilio hwylus isod!

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda WaterSafe er mwyn eich helpu chi i gyflwyno'ch hysbysiad. Isod mae ffilm fer i’ch helpu chi i lenwi’r ffurflenni a sicrhau eich bod chi'n darparu'r wybodaeth ategol gywir.

Cyflwyno'ch Hysbysiad

I’w gwneud hi'n haws i chi gyflwyno hysbysiad i ni, gallwch lawrlwytho ein ffurflen isod a'i llenwi'n electronig. Fel arall gallwch argraffu copi o'r ffurflen a'i phostio i ni gan ddefnyddio'r manylion sydd arni.

Wrth gyflwyno'ch ffurflen, mae'n syniad da darparu cymaint o wybodaeth ategol â phosibl. Mae'r ffurflen yn cynnwys manylion y wybodaeth ategol angenrheidiol, ond dylai gynnwys o leiaf y canlynol:

  • A. Map sy'n dangos lleoliad yr eiddo
  • B. Plan o'r rhannau o'r eiddo y mae'r cynnig yn cyfeirio atynt
  • C. Diagram sy'n dangos y pibellwaith, y ffitiadau a'r teclynnau y bwriedir eu gosod
  • D. Rhestr o'r ffitiadau dŵr a ddefnyddir

Rydyn ni wedi cynhyrchu fideo byr gyda WaterSafe sy'n dangos i chi sut i baratoi eich hysbysiad, a gallwch ei wylio isod.

Gallwch lawrlwytho ein ffurflen hysbysu isod, a’i llenwi'n electronig neu ei hargraffu os oes angen. Mae'r ffurflen yn cynnwys yr holl wybodaeth fydd eu hangen arnoch o ran beth i'w gynnwys a sut i'w chyflwyno i ni.

Noder, os ydych chi'n gosod falf RPZ yn rhan o unrhyw waith arfaethedig, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Hysbysiad Gosod RPZ hefyd. Mae’r ffurflen honno ar gael yma.

Ffurflen Hysbysu am Osodiad Arfaethedig

PDF, 134.4kB

Sut byddwn ni'n delio â'ch hysbysiad

Pan ddaw eich hysbysiad i law, ein nod fydd ymateb i chi cyn pen 10 diwrnod gwaith. Os oes gennym bopeth sydd ei hangen arnom, byddwn ni'n ysgrifennu atoch i roi ein caniatâd.

Weithiau bydd arnom angen rhagor o wybodaeth gennych, a byddwn ni'n gofyn i chi ei darparu. Yn hynny o beth, byddwn ni'n atal ein caniatâd nes bod gennym ddigon o wybodaeth i allu ardystio’ch gwaith arfaethedig gan wybod ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Os na fyddwch wedi clywed gennym ymhen 10 diwrnod gwaith, cewch fwrw ymlaen â'r gwaith, ond rhaid iddo gydymffufrio â gofynion y Rheoliadau o hyd.

Gweithio gyda'r Gwasanaethau Datblygu

Os ydych chi'n adeiladu eiddo newydd, neu os oes angen cysylltiad dŵr newydd arnoch yn rhan o unrhyw waith, bydd angen i chi gyflwyno cais yn uniongyrchol i'n tîm Gwasanaethau Datblygu.

Er mwyn cwtogi ar waith papur, pan fyddwch chi'n cyflwyno cais am gysylltiad newydd, caiff y cais hwnnw ei ddefnyddio fel hysbysiad i'r Tîm Rheoliadau Dŵr hefyd. Gallwch ymgeisio neu gael ragor o fanylion am ofynion ein Tîm Gwasanaethau Datblygu trwy glicio yma.

Angen cymorth o hyd?

Rydyn ni'n cyhoeddi ein holl ganllawiau ar y Rheoliadau Dŵr yma ar ein gwefan. Mae rhagor o fanylion am ein dogfennau canllaw yma.

Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr am unrhyw beth, mae ein Tîm Technegol ar y Rheoliadau Dŵr wrth law i rannu cyngor ar sut i gydymffurfio. Gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio waterregulations@dwrcymru.com neu ein ffonio ni ar 01792 841572.

Os hoffech chi gael cyngor annibynnol, mae Water Regs UK yn cynnig gwasanaeth cynghori technegol ac yn cyhoeddi canllawiau a gydnabyddir gan y diwydiant ar eu gwefan. Gallwch eu ffonio nhw ar 01495 983010 neu e-bostio info@waterregsuk.co.uk.