Y gwirionedd am weips

Mae llawer o weips wedi’u gwneud o blastig, sy’n golygu nad ydyn nhw'n datgymalu fel papur tŷ bach. Mae un weip yn ddigon i achosi rhwystr annymunol a allai arwain at garthion yn llifo yn ôl i mewn i’ch cartref. Gall fod yn ofidus iawn ac mae hefyd yn gostus i’w drwsio. Ac os na fydd yn digwydd i’ch pibellau chi, gallai ddigwydd i’ch cymydog ymhellach i lawr y lein.

Rydym yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n cael eu hachosi gan gamddefnyddio’r carthffosydd a gyda’n gilydd gallwn stopio’r bloc.


Oriel y Dihirod

Stopio'r bloc

yn yr ystafell ymolchi

  • Dim ond y 3P y dylech eu fflysio! Taflwch yr holl weips, eitemau mislif, ffyn cotwm a chewynnau yn y bin
  • Edrychwch i weld a yw eich cyngor lleol yn darparu gwasanaeth casglu cewynnau
  • Rhowch gynnig ar ddefnyddio cynhyrchion di-blastig neu rai y gallwch eu hailddefnyddio i leihau eich gwastraff a helpu’r blaned
Gwyliwch nawr

Stopio'r bloc

yn y gegin

  • I osgoi rhwystrau braster a chadw’r draeniau a’r carthffosydd yn glir, sychwch ein padelli ffrio ac eitemau eraill â phapur cegin cyn eu golchi, a thaflu’r papur cegin yn y bin
  • Defnyddiwch hidlwr basn i ddal unrhyw ddarnau o fwyd sydd dros ben cyn iddynt fynd i lawr y twll
  • Arhoswch i olewau oeri, a chrafwch nhw i mewn i gynhwysydd i’w gwaredu neu eu hailgylchu

Stopio'r bloc

yn y gweithle

  • Bydd problemau draenio yn eich busnes yn effeithio ar eich cwsmeriaid yn ogystal ag arnoch chi
  • Gall ein tîm gynnal arolwg pwrpasol o’ch cegin, am ddim i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau’r diwydiant
Awgrymiadau defnyddiol a gwybodaeth bellach.

Sut mae blocio carthffosydd yn effeithio ar yr amgylchedd lleol...

Cwestiynau Cyffredin

Rhowch wybod i ni

Os gwelwch chi lygredd, rhowch wybod i ni ar unwaith ar 0800 085 3968 neu trwy'r ddolen isod.

Er mwyn eich amgylchedd lleol, peidiwch â fflysio dim ond pi-pi, pŵ a phapur.
Rhowch wybod i ni