Esbonio biliau anfesuredig


Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn gorfod talu cost sefydlog bob blwyddyn yn seiliedig ar eich eiddo. Yma, rydym yn rhoi manylion eich bil er mwyn i chi wybod beth yr ydych yn talu amdano, a beth y mae angen i chi ei wneud.

Sut caiff fy mil ei gyfrifo?

Mae’r swm yr ydym yn ei godi yn wahanol ar gyfer pob eiddo. Rydym yn bilio o 1 Ebrill i 31 Mawrth, neu o’ch dyddiad symud i mewn i 31 Mawrth os ydych wedi symud i mewn yn ddiweddar. Mae cyfradd sefydlog  ar gyfer y flwyddyn wedi’i seilio ar y canlynol:

  • Maint yr eiddo
  • Nifer yr ystafelloedd
  • Cyfleusterau lleol
  • Lleoliad yr eiddo
  • Cyflwr cyffredinol

Nid ydym ni’n bilio am faint o ddŵr yr ydych chi’n ei ddefnyddio, na nifer y bobl sy’n byw yn eich eiddo. Os byddai’n well gennych gael eich bilio am y dŵr yr ydych yn ei ddefnyddio, gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell i amcangyfrif eich defnydd a thaliadau ac yna gwneud cais ar-lein am fesurydd.

Taliadau Cartref Anfesuredig

Mae biliau anfesuredig yn cael eu hanfon unwaith y flwyddyn a hynny ar un o’r ddau fformat canlynol:

Tâl gwerth ardrethol - bydd y bil yn cynnwys cost sefydlog a chost fesul punt (£) o werth ardrethol ar gyfer yr eiddo

neu

Tâl Gwasanaeth Unffurf (ar gyfer eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000) – mae’r taliadau wedi’u seilio ar werth ardrethol cyfartalog eiddo yng Nghymru.

Ein 2023-2024 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 138.23
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.0877
Tâl Gwasanaeth Unffurf 279.63
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 215.36
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 163.56
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.6992
Tâl Gwasanaeth Unffurf 436.26
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  384.46
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  52.59

Ein 2022-2023 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 141.12
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 0.9022
Tâl Gwasanaeth Unffurf 258.40
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 213.67
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 161.87
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.3859
Tâl Gwasanaeth Unffurf 393.83
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  342.03
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  49.88

Mae’r holl daliadau o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023. Gosodir yr holl gostau gan Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr. I gael rhagor o wybodaeth am ein costau defnyddio presennol, cyfeiriwch at ein crynodeb o gostau cartref:

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Hafren Dyfrdwy, gweler eich taliadau yma.

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Severn Trent, gweler eich taliadau yma.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn derbyn fy mil?

Fe fyddwn yn danfon eich bil anfesuredig unwaith y flwyddyn rhwng mis Chwefror a mis Mawrth ar gyfer costau o 1 Ebrill i’r 31 Mawrth canlynol (fel eich bil treth gyngor).

Mae’n rhaid talu eich bil o fewn 14 diwrnod i’w dderbyn heblaw bod gennych gynllun talu neu Ddebyd Uniongyrchol ar waith. Os ydych chi’n talu eich bil erbyn 1 Ebrill, fe fyddwch yn cael disgownt o 1.5% ar eich taliad.

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd symlaf o dalu oherwydd y gallwch wasgaru’r gost dros flwyddyn, ac fe fyddwn ni’n cymryd y taliadau yn awtomatig. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Debyd Uniongyrchol.

Os oes gennych chi gynllun talu ar waith ond yn methu â chadw at y trefniant, bydd y balans llawn sy'n ddyledus yn daladwy.

Os ydych chi’n symud tŷ

Os ydych chi’n symud allan o eiddo anfesuredig cyn 31 Mawrth ac y talwyd eich bil yn llawn, caiff unrhyw or-daliad ei ad-dalu neu ei drosglwyddo i’ch cyfeiriad newydd, felly ni fyddwch yn colli arian.