Tywydd yn Meirioli

Gall newid sydyn yn y tymheredd beri i bibellau sydd wedi rhewi fyrstio

Gall y newid o dywydd oer iawn i dywydd mwyn beri i bibellau ehangu a chrebachu, sy’n golygu eu bod nhw’n gollwng, yn cracio neu hyd yn oed yn byrstio.

Gall cwsmeriaid helpu trwy gadw llygad barcud ar eu heiddo eu hunain, defnyddio ein gwefan i roi gwybod am ddŵr sy’n gollwng, a ffonio dim ond os oes argyfwng.

Sut i ddelio â phibellau sy’n gollwng

  • Os oes pibell yn byrstio yn eich cartref, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â phlymwr preifat – chwiliwch am blymwyr cofrestredig trwy Watersafe.org.uk
  • Mae Dŵr Cymru’n gyfrifol hyd at ffin yr eiddo yn unig.

How to deal with burst pipes

  • Os yw’r dŵr yn eich pibellau’n rhewi, mae’n achosi croniant o bwysedd - ac wrth iddo ddadmer - gall achosi hollt yn y bibell.
  • Os oes pibell wedi byrstio ar eich eiddo chi, peidiwch â mynd i banig, dilynwch y camau hyn:
    • Ceisiwch ffeindio’r byrst - a chaewch y cyflenwad ar unwaith trwy droi’r stoptap i gyfeiriad clocwedd.
    • Ffeindiwch eich stoptap - mae hi fel arfer o dan sinc y gegin neu wrth y tŷ bach lawr llawr. Ond gallai fod mewn garej neu gwt allanol.
    • Agorwch yr holl dapiau er mwyn lleihau effaith y llifogydd.
    • Defnyddiwch dywelion trwchus i amsugno neu atal y dŵr sy’n gollwng.
    • Diffoddwch offer trydan: os yw’r dŵr yn agos at unrhyw beth trydanol - gan gynnwys goleuadau, socedi neu offer - peidiwch â chyffwrdd â nhw. Gall gwifrau trydan sydd wedi cael eu difrodi gan ddŵr fod yn beryglus dros ben a bydd angen i chi alw rhywun proffesiynol allan i drwsio’r difrod.
    • Galwch blymwr cofrestredig - os oes angen cymorth i drwsio byrst ar bibell, cysylltwch â phlymwr WaterSafe trwy watersafe.org.uk
    • Mae rhagor o gymorth a chyngor ar gael ar ein gwefan: dwrcymru.com/gaeafbarod.