Amddiffyn eich hun rhag galwyr ffug


Mae galwyr ffug yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn cael mynediad i’ch cartref, lle byddan nhw’n ceisio dwyn arian neu eitemau gwerthfawr. Weithiau, maen nhw’n esgus bod yn rhywun o Dŵr Cymru (neu’r ‘bwrdd dŵr’). Maen nhw fel arfer yn targedu’r henoed neu bobl agored i niwed.

Rydym yn casáu galwyr ffug. Felly rydym yn gwneud pob dim yn ein gallu i’ch cadw chi a’ch cartref yn ddiogel.

Llinell Gymorth Galwyr Ffug – 0800 281 141

Sut i wahaniaethu rhwng y bobl dda (sef ni!) a’r bobl ddrwg

Arwyddion rhybuddio
Pan fydd galwyr ffug yn curo ar eich drws bydd y canlynol yn wir:

  • Ni fydd ganddyn nhw apwyntiad
  • Ni fyddan nhw’n fodlon i chi astudio’u cerdyn adnabod (os bydd un ganddyn nhw)
  • Maen nhw’n aml yn gweithio mewn parau
  • Byddan nhw’n ceisio’ch rhoi dan bwysau
  • Byddan nhw’n gofyn am arian

Gallan nhw edrych yn eithaf credadwy – efallai mewn dillad swyddogol yr olwg, a cherdyn adnabod ffug. Gallan nhw hefyd ymddangos yn gyfeillgar a pherswadiol.

Y bobl iawn

Mae pawb sy’n gweithio i Dŵr Cymru yn cario cerdyn adnabod, ac yn hapus i’w ddangos. Fel arfer, rydym yn gyrru faniau â logo Dŵr Cymru arnynt. Weithiau, byddwn yn defnyddio contractwyr, a allai fod yn gyrru faniau cwmni gwahanol, ond bydd ganddyn nhw eu cerdyn adnabod eu hunain a byddant yn dilyn yr un rheolau â phobl Dŵr Cymru arferol. Ni fyddwn byth yn gofyn am arian gennych nac yn ei dderbyn gennych yn eich cartref. Ac fel arfer byddwn wedi trefnu apwyntiad, felly byddwch chi’n ein disgwyl.

Y 3 rheol

Pan fyddwch yn ateb y drws i unrhyw un sy’n galw o Dŵr Cymru, dilynwch ein 3 rheol: CERDYN, GWIRIO a FFONIO.

1. CERDYN

Gofynnwch i ni ddangos ein cerdyn adnabod – ni fyddwn yn digio! Yn wir, mae ein holl gyflogeion a chontractwyr yn hapus iawn i wneud hyn. Os hoffech chi, gallwn bostio’n cardiau adnabod trwy'r blwch llythyrau. Edrychwch yn fanwl – nid oes unrhyw frys.

2. GWIRIO

Gwiriwch y cerdyn adnabod yn ofalus:

  • Ydy’r llun ar y cerdyn adnabod o’r un person ag sy’n sefyll wrth eich drws?
  • Ydy’r cerdyn adnabod wedi’i newid mewn unrhyw ffordd neu’n edrych yn amheus?
  • Cymerwch eich amser. Rydym yn fwy na bodlon aros y tu allan wrth i chi wirio. Ni fyddwn yn rhoi unrhyw bwysau arnoch i’n gadael ni i mewn.

Os nad ydych 100% yn siŵr, PEIDIWCH â’n gadael ni i mewn!

3. FFONIO

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ffoniwch ein Llinell Gymorth Galwyr Ffug ar 0800 281 141. Gallwn ddweud wrthych os yw’r galwr wrth eich drws yn ddilys, a byddai’n llawer gwell gennym eich bod yn ein ffonio, na’ch bod chi mewn perygl o ddioddef lladrad. Os yw’r galwr yn dechrau rhoi pwysau mewn unrhyw ffordd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith drwy ffonio 999.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw’r galwr yn ddilys, peidiwch â’i adael i mewn i’ch cartref.

Cynllun Cyfrinair

I wneud i chi deimlo’n fwy diogel, gallwn drefnu defnyddio cyfrinair pan fyddwn yn ymweld â chi. Dewiswch gyfrinair sy’n hawdd i chi ei gofio, a’i gofrestru drwy ein ffonio ar 0800 052 0145. Pryd bynnag y byddwn yn galw, byddwn yn defnyddio’r cyfrinair hwn (ac os na fyddwn, peidiwch â’n gadael ni i mewn!).

CCADWCH Y TACLE ALLAN O’CH CARTRE

Diogelwch Cyfrinair

I gofrestru cyfrinair, ffoniwch 0800 052 0145

O.N. Fel arfer, mae galwyr ffug yn targedu’r henoed a phobl agored i niwed, nad ydyn nhw wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd. Gallwch chi ein helpu drwy rannu’r neges â theulu a chymdogion.