Dŵr Llaethog


Aer yn y system sy’n achosi dŵr llaethog fel rheol. Mae swigod bach o aer yn gallu ffurfio yn y dŵr wrth iddo ddod drwy’r tap, gan wneud i’r dŵr edrych yn llaethog neu’n niwlog. Mae dŵr llawn swigod aer fel hyn yn berffaith ddiogel i’w yfed.

Dyma brawf y gallwch ei gyflawni i weld ai swigod aer sy’n peri i’r dŵr edrych yn llaethog:

  • Llenwch wydraid o ddŵr oer o’r tap.
  • Arhoswch i weld a yw’n clirio o’r gwaelod i fyny.
  • Os yw e, mae hyn yn golygu taw aer yn y dŵr sy’n achosi’r golwg llaethog, ac felly mae’r dŵr yn iawn i’w yfed.

 

Mae nifer o bethau’n gallu peri i aer fynd i’r pibellau dŵr - weithiau mae’n gallu digwydd am ein bod ni wedi bod yn gweithio ar y prif bibellau dŵr yn y stryd. Mae plymio mewnol yn gallu peri i aer fynd i’r dŵr hefyd. Mae’n gyffredin pan fo’r pibellau dŵr oer yn rhy agos at y pibellau dŵr poeth neu wres canolog. Mae llai o aer toddedig mewn dŵr poeth nac mewn dŵr oer, felly pan fo’r dŵr oer yn cael ei gynhesu yn y bibell, bydd swigod yn ffurfio gan roi golwg llaethog iddo. Dylai’r dŵr glirio os byddwch chi’n rhedeg y tap nes i’r dŵr redeg yn oer, a gallwch atal hyn rhag digwydd trwy inswleiddio’r pibellau er mwyn atal y dŵr oer rhag cynhesu.

Os na fydd y dŵr yn clirio wrth gyflawni’r prawf uchod, a bod y dŵr llaethog yn parhau, yn effeithio ar eich tapiau i gyd ac nad yw’n effeithio ar eich cymdogion, cysylltwch â ni.