Ymdrin â gollyngiadau dŵr
Yn Dŵr Cymru, rydym yn cymryd pob gollyngiad dŵr o ddifrif ac yn gwerthfawrogi’ch help i roi gwybod i ni amdanynt.
Cyn rhoi gwybod am ollyngiad
Cyn i chi roi gwybod am ollyngiad gallwch wirio yma os ydym eisoes yn ymwybodol ohono.
Rhowch wybod i'n tîm penodedig am ollyngiad dŵr
Os ydych chi'n sylwi ar ollyngiad, gallwch roi gwybod am hyn ar-lein 24/7 neu gysylltu â ni.
Beth i'w ddisgwyl gennym ni
Ar ôl i chi roi gwybod am y gollyngiad, bydd ein tîm yn cael eich gwybodaeth ac yn blaenoriaethu ymchwilio ac atgyweirio'r gollyngiad yr ydych chi wedi rhoi gwybod amdano. Gall rhai atgyweiriadau gymryd mwy o amser nag eraill. Efallai y bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r cyngor neu'r awdurdodau lleol i wneud yn siŵr ein bod yn ei drwsio'n ddiogel. Mae'r fideo canlynol yn amlinellu'r camau nesaf a'r amserlenni; byddwch yn ymwybodol mai canllaw yn unig yw ein hamserlen a gallai gael ei diwygio oherwydd gwaith brys neu amodau amgylcheddol.
Ydych chi'n credu bod gennych ollyngiad ar eich Pibell Gyflenwi Breifat?
Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i annog ein cwsmeriaid i ganfod ac atgyweirio gollyngiadau cyn gynted â phosibl’ Mae hyn yn ein helpu ni i leihau gollyngiadau ac yn eich helpu chi i arbed symiau mawr o arian. Efallai fod gennych ollyngiad os byddwch yn sylwi ar:
- Ardaloedd o lystyfiant toreithiog
- Gostyngiad mawr mewn pwysedd dŵr
- Sŵn hisian ger eich falf gau fewnol
- Darnau llaith ar y ddaear
- Newid anesboniadwy ar eich bil.