Ydych chi wedi derbyn Pecyn Cartref?


Yn rhan o'n cynllun Cartref a'n hymgyrch barhaus i leihau gollyngiadau ar draws ein rhwydwaith, rydyn ni'n defnyddio nifer o synwyryddion ar bibellau a ffitiadau mewn ardaloedd lle mae arwyddion o ddefnydd mawr.

Mae'r dyfeisiau hyn yn cael eu gosod ar y rhwydwaith ac ar stoptapiau y tu allan i eiddo cwsmeriaid, ac maent yn caniatáu i ni ganfod beth rydyn ni'n ei alw’n "bwyntiau o ddiddordeb" – sef rhannau o'n rhwydwaith neu eiddo lle rydyn ni'n credu y gallai fod yna ddŵr yn gollwng.

Os yw'r data'n dangos hwyrach fod dŵr yn gollwng ar gyflenwad un o'n cwsmeriaid, neu'r tu fewn i'r eiddo, byddwn ni'n rhoi gwybod iddynt ac yn trefnu amser addas i ddod allan i'r eiddo i gyflawni archwiliadau syml.

Os ydych chi wedi derbyn copi o'r ddogfen a welwch ar y dudalen hon, mae hynny’n golygu bod ein synwyryddion yn dangos bod defnydd mawr yn eich eiddo, a'i bod hi'n bosibl fod dŵr yn gollwng felly.

Y cam nesaf

Rydyn ni'n gwybod bod dŵr sy'n gollwng yn gallu achosi pryder – ond r’yn ni yma i helpu.

Rydyn ni am drefnu apwyntiad i un o'n peirianwyr alw draw i ymweld â chi i weld a oes dŵr yn gollwng yn rhywle.Y ffordd hawsaf i gysylltu â ni yw cliciwch yma. Bydd hyn yn mynd â chi i'n ffurflen ymholiad ar lein – nodwch eich manylion a byddwn ni'n cysylltu â chi.

Yr apwyntiad

Bydd ein peiriannydd yn cyrraedd ar amser a dyddiad sy'n gyfleus i chi, ac yn esbonio'r rheswm dros alw a beth maen nhw'n bwriadu ei wneud. Byddwn ni'n cyflawni ein harchwiliadau ac os ffeindiwn ni fod tap neu doiled yn gollwng, efallai y gallwn drwsio'r broblem am ddim.

Os na allwn ni helpu'n uniongyrchol, byddwn ni'n cynnig cyngor ac arweiniad i chi.

Byddwn ni'n esbonio hyn i gyd yn ystod yr apwyntiad.

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf i'n trefnu apwyntiad?

Byddwn ni'n monitro'r dŵr sy'n gollwng dros y 21 diwrnod nesaf. Os na fyddwch chi'n trwsio'r broblem erbyn hynny, byddwn ni'n cysylltu â chi eto i drafod y camau nesaf.