Profedigaeth


Rydym yn deall y gall hwn fod yn gyfnod anodd, gyda chymaint o bethau i’w gwneud a gwahanol gwmnïoedd i gysylltu â nhw. Rydym yn awyddus i wneud hyn mor hawdd â phosibl i chi drwy roi’r opsiwn i chi o sut yr hoffech roi gwybod i ni.

Y ffordd hawsaf o roi gwybod i ni yw trwy ffonio neu drwy ddefnyddio ein gwasanaeth Sgwrsio Byw fel y gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych yn y fan a’r lle. Os byddai’n well gennych beidio â siarad â ni, gallwch hefyd ddefnyddio ein ffurflen profedigaeth ar-lein isod.

Beth i’w ddisgwyl

Yn gyntaf, mae angen i ni wybod a yw’r eiddo yn wag neu a oes rhywun yn byw yno ac yn defnyddio’r dŵr.

Fel arfer, mae taliadau dŵr yn daladwy os yw eiddo'n wag ond yn parhau i fod wedi'i ddodrefnu. Fodd bynnag, pan fydd meddiannydd unigol wedi marw, byddwn yn dileu unrhyw daliadau dros dro (hyd at uchafswm o flwyddyn), tra byddwch yn aros am Grant Profiant i'ch galluogi i werthu neu rentu'r eiddo.

Os bydd yr eiddo'n cael ei feddiannu mewn unrhyw ffordd (hyd yn oed dros dro), neu os bydd angen dŵr ar gyfer unrhyw waith addurno neu adnewyddu, bydd taliadau yn daladwy am y cyfnod y bydd angen dŵr.

Bydd o gymorth i ni i’r wybodaeth ganlynol fod wrth law gennych er mwyn i ni allu penderfynu ar y canlyniad gorau ar gyfer y cyfrif:

  • Enw a chyfeiriad deiliad y cyfrif
  • Enw a chyfeiriad yr Ysgutor(ion)
  • Dyddiad y bu farw deiliad y cyfrif
  • Darlleniad mesurydd (os oes gan yr eiddo fesurydd a’i fod yn ddiogel i'w ddarllen)
  • Enw(au) unrhyw un sy'n byw yn yr eiddo, neu y bydd disgwyl iddo fyw ynddo

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych hyn i gyd wrth law. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Siarad â chynghorydd

0800 052 6058

8am i 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 9am i 1pm ddydd Sadwrn

Rhoi Gwybod i Ni am Brofedigaeth

Os byddai’n well gennych beidio â siarad â ni, gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen profedigaeth ar-lein.

Rhowch wybod i ni yma
Life Ledger

Life

Ledger

Ar adeg anodd iawn, gall yr adnodd hwn sydd am ddim helpu i leihau straen ac anhawster wrth roi gwybod am brofedigaeth.

Gallwch gysylltu â'r holl gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r person sydd wedi marw mewn un lle, ac arbed oriau o amser heb orfod cael yr un sgwrs anodd drosodd a throsodd.

Gwybod mwy