Dŵr Cymru yn mabwysiadu carthffosydd preifat


Parhaodd y gwaith o adeiladu carthffosydd preifat a draeniau ochrol ar sawl safle datblygu y tu hwnt i 1 Gorffennaf 2011. Ni chafodd y carthffosydd hyn eu trosglwyddo’n awtomatig i Ddŵr Cymru ar 1 Hydref 2011 yn rhan o’r broses wreiddiol i drosglwyddo carthffosydd preifat.

Trosglwyddiadau Ategol

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru safonau adeiladu newydd, o’r enw Safonau Gweinidogion Cymru, ar draws ardal weithredu Dŵr Cymru ar 1 Hydref 2012. Nod y safonau hyn yw sicrhau bod carthffosydd a draeniau ochrol newydd yn cael eu hadeiladu i safon briodol a’u bod yn cael eu ‘mabwysiadu’ er mwyn i Ddŵr Cymru eu cynnal a’u trwsio wedyn.

Bydd y Trosglwyddiad Ategol yn trosglwyddo’r holl garthffosydd a draeniau ochrol a adeiladwyd rhwng 1 Gorffennaf 2011 a dyddiad cyflwyno’r safonau adeiladu newydd ar 1 Hydref 2012, o’r datblygwyr a pherchnogion yr eiddo i Ddŵr Cymru.

Ar 1 Hydref 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r Cynllun ar gyfer mabwysiadu’r carthffosydd hyn, gan roi manylion y trosglwyddiad. Gellir cael rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n ysgrifennu at unrhyw eiddo sydd wedi cael eu cysylltu â’n carthffosydd rhwng Gorffennaf 2011 a Hydref 2012 er mwyn rhoi gwybod iddynt am y trosglwyddiad a fydd yn digwydd ar 1 Ebrill 2013. Os cafodd eich eiddo chi ei gysylltu rhwng y dyddiadau hynny, nid oes angen i chi wneud dim, ond rydyn ni’n argymell eich bod chi’n darllen y llythyr a’r daflen isod.

Gorsafoedd Pwmpio Preifat

Erbyn 1 Hydref 2016, byddwn ni wedi cymryd cyfrifoldeb dros y rhan fwyaf o’r gorsafoedd pwmpio preifat yn ein hardal. Mae hyn yn cymryd y cyfrifoldeb oddi ar ysgwyddau ein cwsmeriaid ac yn rheoli’r rhwydwaith dŵr gwastraff mewn ffordd fwy effeithiol.

Mae Gorsafoedd Pwmpio’n cael eu hadeiladu pan fo’r system draenio ar gyfer tŷ neu ddatblygiad tai yn is i lawr na’r garthffos gyhoeddus y mae’n cysylltu â hi. Mae hyn yn golygu bod angen pwmp a phibell godi, sef pibell dan wasgedd, i godi’r dŵr gwastraff i’r garthffos gyhoeddus.

Lleolir y pwmp mewn siambr danddaear, sy’n casglu’r dŵr gwastraff o’r system draenio. Y cyfan y gwelwch chi fel rheol fydd gorchudd dur y twll mynediad i’r ffynnon, a chiosg, sy’n wyrdd neu’n llwyd fel arfer, lle mae’r offer rheoli trydan ar gyfer y pympiau.

Nid Dŵr Cymru sydd biau’r gorsafoedd pwmpio nac yn eu gweithredu.

Mae’n bosibl na ofynnodd y datblygwr i ni fabwysiadu’r orsaf bwmpio, neu iddo fynd i’r wal cyn cwblhau’r broses, neu mae’n bosibl bod perchnogaeth dros yr orsaf bwmpio wedi trosglwyddo o ddatblygwr i’r trigolion lleol. Bydd yna orsafoedd pwmpio y mae Dŵr Cymru wedi gwrthod eu mabwysiadu hefyd am nad ydynt yn bodloni’r safonau angenrheidiol i fod yn rhan o’n rhwydwaith.

Rydyn ni’n amcangyfrif bod gennym 800 o orsafoedd pwmpio preifat yn ardal weithredol Dŵr Cymru.

Bydd cymryd cyfrifoldeb dros y rhain yn golygu cynnydd dramatig yn ein baich gwaith, ond rydyn ni’n cefnogi hyn, am ei bod yn beth da i’n cwsmeriaid yn ein barn ni, a:

  • Bydd yn lleddfu baich y cyfrifoldeb annheg sydd ar ein cwsmeriaid sy’n cael eu gwasanaethu gan y gorsafoedd pwmpio hyn ar hyn o bryd.
  • Bydd yn eglurhau’r materion o gylch perchnogaeth a chyfrifoldebau.
  • Bydd yn sicrhau bod y costau cynnal a thrwsio’n cael eu rhannu’n decach.

Rydyn ni ar gam cynnar iawn yn y broses, ac mae angen o hyd i ni ddod o hyd i’r holl orsafoedd pwmpio, ond rydyn ni’n bwriadu dechrau trosglwyddo’r gorsafoedd yn 2013 fel y gellir trosglwyddo’r holl orsafoedd y gwyddom amdanynt erbyn 1 Hydref 2016.

Beth yw Gorsaf Bwmpio Breifat

Gorsaf bwmpio nad yw’n eiddo i Ddŵr Cymru ac nad yw’n cael ei weithredu gan y cwmni yw gorsaf bwmpio breifat. Mae’n bosibl na ofynnodd y datblygwr i ni fabwysiadu’r orsaf bwmpio, neu i gwmni’r datblygwr fynd i’r wal cyn cwblhau’r broses. Neu efallai bod perchnogaeth dros yr orsaf bwmpio wedi trosglwyddo o’r datblygwr i’r trigolion lleol. Bydd yna orsafoedd pwmpio y mae Dŵr Cymru wedi gwrthod eu mabwysiad hefyd, am nad ydyn nhw’n bodloni’r safonau gofynnol i fod yn rhan o’n rhwydwaith.

Adeiladau bychain tebyg i giosgau yw’r gorsafoedd pwmpio fel rheol, a dyma ambell i enghraifft nodweddiadol:

Oherwydd newidiadau yn y gyfraith, o 1 Hydref 2016 ymlaen, byddwn ni’n cymryd cyfrifoldeb dros y rhan fwyaf o’r gorsafoedd pwmpio preifat yn ein hardal, fel na fydd angen i’n cwsmeriaid boeni amdanynt.

Mae angen i ni ddod o hyd i’r holl orsafoedd pwmpio hyn, a dyna pam mae angen eich cymorth chi. Os ydych chi’n gwybod am, neu’n gyfrifol am unrhyw orsaf bwmpio breifat:

  • sy’n gwasanaethu mwy nag un tŷ, neu
  • sy’n gwasanaethu un tŷ yn unig, ond sydd wedi ei leoli y tu hwnt i ffiniau’r eiddo hwnnw.

Dywedwch wrthym ni – gallwch gofrestru eich gorsaf bwmpio yma ar 0800 085 3968.

Y cam nesaf i ni yw cyflawni nifer o asesiadau a byddwn ni’n rhoi gwybod i chi sut mae pethau’n mynd. Mae’n bosibl y byddwn ni’n trosglwyddo rhai gorsafoedd pwmpio preifat cyn 1 Hydref 2016, ond ni allwn ni roi amserlen bendant ar gyfer y broses nes ein bod ni’n gwybod ble maen nhw i gyd – rydyn ni’n amcangyfrif y bydd gennym ryw 800 o orsafoedd pwmpio preifat i’w mabwysiadu.

Beth yw Trosglwyddo Gorsafoedd Pwmpio Preifat

Dyma’r prosesau rydym ni’n eu dilyn er mwyn trosglwyddo gorsafoedd pwmpio preifat i berchnogaeth Dŵr Cymru:-

Taflen Gorsafoedd Pwmpio Preifat

PDF, 144.4kB

Ein rhaglen drosglwyddo 

Taflen Gorsafoedd Pwmpio Preifat

PDF, 144.4kB

Ein rhaglen drosglwyddo