Esemptiadau


Mae rhai esemptiadau y gellir eu cymhwyso, sy’n cynnwys pobl ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth neu ddeiliaid Bathodyn Glas.

Mae rhestr lawn o’r esemptiadau ar gael isod.

Eithriadau Statudol

Gall cwsmeriaid sy'n bodloni'r gofynion isod barhau i ddefnyddio dŵr heb orfod cyflwyno achos i Dŵr Cymru Cyfyngedig i gael caniatâd. Wrth ddefnyddio dŵr, gofynnir i gwsmeriaid ddefnyddio dŵr yn ddoeth a mabwysiadu arferion effeithlon o ddefnyddio dŵr:

  • Defnyddio piben ddyfrhau am resymau iechyd neu ddiogelwch, pan fo hyn yn cynnwys (a) gwaredu neu leihau unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid; a (b) atal neu reoli lledaeniad cyfryngau a all achosi clefydau;
  • Dyfrhau planhigion sydd (1) yn cael eu tyfu neu eu cadw ar gyfer eu gwerthu neu ar gyfer defnydd masnachol, neu (2) sy'n rhan o Gasgliad Planhigion Cenedlaethol neu arddangosfa flodau dros dro;
  • Glanhau unrhyw ran o gwch hamdden preifat sydd, heblaw am ddrysau neu ffenestri, wedi'i hamgáu gan do a waliau;
  • Llenwi neu gynnal a chadw pwll dŵr pan fo angen wrth ei adeiladu;
  • Llenwi neu gynnal a chadw pwll dŵr sydd wedi ei gynllunio, ei adeiladu neu ei addasu i'w ddefnyddio mewn rhaglen o driniaeth feddygol;
  • Llenwi neu gynnal a chadw pwll dŵr sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn dadlygru anifeiliaid o heintiau neu glefydau;
  • Llenwi neu gynnal a chadw pwll dŵr a ddefnyddir mewn rhaglen o driniaeth filfeddygol;
  • Llenwi neu gynnal a chadw pwll dŵr lle mae pysgod neu anifeiliaid dyfrol eraill yn cael eu magu neu eu cadw mewn caethiwed;
  • Llenwi neu gynnal a chadw pwll dŵr domestig lle mae pysgod neu anifeiliaid dyfrol eraill yn cael eu magu neu eu cadw mewn caethiwed; a
  • Llenwi neu gynnal a chadw ffynnon addurnol sydd mewn pwll pysgod neu'n agos iddo gyda’r diben o gyflenwi digon o ocsigen i'r dŵr yn y pwll er mwyn cadw'r pysgod yn iach.

Noder: mae dyfrhau ardaloedd o laswellt, sy'n cael eu defnyddio ar gyfer chwaraeon neu hamdden, yn cael ei gwmpasu gan Eithriadau Statudol ar gyfer iechyd a diogelwch yn unig mewn cysylltiad â'r llain weithredol/ardal chwarae, nid y tir cyfan.

Eithriadau Cyffredinol yn ôl Disgresiwn

Gall cwsmeriaid sy'n bodloni'r meini prawf isod ar gyfer Eithriad Cyffredinol yn ôl Disgresiwn barhau i ddefnyddio dŵr heb orfod cyflwyno sylwadau i Dŵr Cymru Cyfyngedig i gael caniatâd i ddefnyddio dŵr ar gyfer y defnyddiau cyfyngedig canlynol. Gofynnir i gwsmeriaid sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer Eithriad Cyffredinol yn ôl Disgresiwn ddefnyddio dŵr yn ddoeth a mabwysiadu arferion effeithlon o ddefnyddio dŵr. Mae hyn yn gymwys i deiliaid Bathodyn Glas a cwsmeriaid sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.

Mae'r meini prawf ar gyfer Eithriad Cyffredinol yn ôl Disgresiwn yn cynnwys:

  • Dyfrhau tyweirch sydd newydd eu gosod am y 28 diwrnod cyntaf;
  • Dyfrhau planhigion sydd newydd eu prynu am y 14 diwrnod cyntaf;
  • Cwsmeriaid sy'n defnyddio system ddyfrhau ddafnu neu ddiferu cymeradwy sydd â falf lleihau pwysedd a system amseru.

Glanhau cerbyd modur preifat gan ddefnyddio piben ddyfrhau

  • Defnyddwyr cyfarpar penodol a gymeradwywyd, megis golchwyr pwysedd manyleb uchel;
  • Piben ddyfrhau gyda chlicied a weithredir â llaw neu gyfarpar sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon;
  • Cwsmeriaid masnachol sy'n defnyddio pibenni dyfrhau fel rhan o'u busnes ar gyfer rhai categorïau TUB, e.e. golchi ceir â llaw, glanhau ffenestri, cael gwared ar graffiti).

Glanhau cwch hamdden preifat gan ddefnyddio piben ddyfrhau

  • Y rhai sy'n defnyddio cychod fel prif breswylfa;
  • Achosion pan fo baw ar gorff y cwch yn achosi cynnydd yn y defnydd o danwydd oherwydd yr ataliad ychwanegol;
  • Ar gyfer peiriannau a gynlluniwyd i gael eu glanhau gyda phiben ddyfrhau;
  • Gweithredu nodweddion dŵr ag arwyddocâd crefyddol;
  • Cwsmeriaid ar Restr Cwsmeriaid Bregus y cwmni sydd â phroblemau symudedd ond nad ydynt yn ddeiliaid Bathodyn Glas.

Llenwi neu gynnal a chadw pwll nofio neu badlo domestig

  • Pyllau nofio gyda gorchuddion;
  • Pyllau sydd â systemau arbed neu ailgylchu dŵr cymeradwy;
  • Pyllau padlo yn y cyfnod cynnar o sychder;
  • Pyllau sy'n dueddol o fod ag angen gwaith atgyweirio ac adnewyddu sylweddol;
  • Llenwi pyllau newydd;
  • Pyllau nofio sy'n gwasanaethu hyfforddiant diwydiannol os gellir eu cyfiawnhau;
  • Pyllau ag arwyddocâd crefyddol.

Glanhau waliau, neu ffenestri, safle domestig gan ddefnyddio piben ddyfrhau

  • Pan ddefnyddir technolegau defnydd dŵr isel iawn sydd wedi’u cymeradwyo gan y cwmni dŵr;
  • Er mwyn cael gwared ar graffiti.

Glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio piben ddyfrhau a glanhau arwynebau awyr agored artiffisial eraill gan ddefnyddio piben ddyfrhau

  • Glanhau llwybrau neu batios neu arwynebau awyr agored artiffisial eraill gan ddefnyddio piben ddŵr i gael gwared ar graffiti neu pan ddefnyddir technolegau defnydd dŵr isel iawn wedi’u cymeradwyo gan y cwmni dŵr;
  • Busnesau bach sydd yn canolbwyntio ar lanhau cerbydau yn unig ac sy’n defnyddio pibenni dŵr;
  • Er mwyn atal neu reoli lledaeniad rhywogaethau anfrodorol a/neu ymledol.