Cefnogi Cenedlaethau’r Dyfodol trwy ein Rhaglen Addysg


26 Ionawr 2023

Dyw’r galw oddi wrth ysgolion i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol trwy ein rhaglen addysg erioed wedi bod yn uwch, gyda dros 50,000 o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn rhwng Ebrill a Rhagfyr 2022. Mae’r sesiynau ysbrydoledig yma yn cynnig cipolwg gwerthfawr i’r diwydiant dwr, maethu diddordeb STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), cefnogi athrawon wrth iddynt gyflwyno’r cwricwlwm newydd a rhoi cyfleoedd ehangach i ddisgyblion i ddysgu am destunau amgylcheddol a chynaladwyedd. Dyma Jo, athrawes sydd ar secondiad ac sy’n helpu i gynnal y rhaglen gynhwysfawr hon, yn siarad am ei phrofiadau o weithio gyda disgyblion:

Mae edrych nôl ar fy nhymor cyntaf fel athro ar secondiad i Ddŵr Cymru wedi gwneud i mi feddwl am y profiadau rydw i wedi eu cael hyd yn hyn.

Ar ôl 8 mlynedd yn addysgu yn Ysgol y Santes Fair yng Nghas-gwent, fel sy’n gallu digwydd gydag athrawon roeddwn i’n dechrau teimlo’n gysurus ac yn chwilio am y sialens nesaf. Mae dywediad gennym ni yn y Santes Fair: ‘Ein Teulu Santes Fair’. Doeddwn i ddim yn barod i ffarwelio â theulu Santes Fair, felly roedd y cyfle i dreulio blwyddyn ar secondiad yn gweithio dros Ddŵr Cymru yn gwireddu breuddwyd i mi. Gydag anogaeth fy nghydweithwyr a’m teulu, fe gyflwynais i gais yn y gobaith o gael cyfweliad. Arweiniodd hyn yn ei dro at gynnig y secondiad i mi, a’r dechrau mwyaf anhygoel i flwyddyn academaidd newydd.

Mae fy rwtîn dyddiol wedi newid o weithio yn yr un ysgol pob dydd gyda’r un cydweithwyr, plant a rhieni, i addysgu wynebau newydd pob dydd, mewn gwahanol amgylcheddau, gan ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth newydd rydw i wedi ei ddysgu am y diwydiant dŵr. Rwy’n dal i wneud y gwaith rwy’n ei garu ac yn dda am ei wneud, ond dwi wir yn mwynhau’r her o gael fy ngwthio gam ymhellach – wrth ddarparu sesiynau yn ein canolfan addysg awyr agored yng Nghilfynydd neu’n mynd allan i ysgolion i gyflwyno ein rhaglen.

Rwy’n mwynhau ymweld â llwyth o wahanol ysgolion mewn llwyth o ardaloedd, o ysgolion mawr mewn dinasoedd i ysgolion gwledig bychain, i ddarparu gwasanaethau ar y Cylch Dŵr, Effeithlonrwydd Dŵr a’n hymgyrch Stop Cyn Creu Bloc. Bob dydd, rwy’n gweld plant brwdfrydig sy’n awyddus i gymryd rhan yn y gwahanol weithdai. Mater o ysbrydoli cenedlaethau o gwsmeriaid y dyfodol yw hi trwy bynciau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm.

Yn ogystal ag ymweld ag ysgolion ar draws Cymru a Sir Henffordd, rydw i wrth fy modd yn croesawu grwpiau o blant i’r Ganolfan Ddarganfod yng Nghilfynydd. Gyda golygfeydd godidog llawn gwlith y bore ar lan afon Taf, pwy fyddai ddim eisiau gweithio yma? Mae hi’n lle mor llonydd ac rwy’n aml yn cymryd seibiant am ychydig eiliadau i anadlu’r cyfan i mewn a chofio pa mor ffodus ydw i o fod wedi cael y cyfle hwn. Mewn cwta tymor, rydw i wedi dysgu gymaint am addysgu yn yr awyr agored, ac wedi bod yn dyst i nifer o brofiadau darganfod hudolus gyda’r plant ar ein safle. Rydw i wedi tyfu gymaint fel athrawes wrth ddatblygu ffyrdd o gyflwyno’r cwricwlwm trwy ddulliau ymarferol, mewn amgylchedd awyr agored – lle mae plant wir yn llewyrchu.

Rydw i wedi bod yn eithriadol o ffodus o gael gweithio gyda phlant ac oedolion ifanc ag amrywiaeth i Anghenion Dysgu ac Ymddygiad Ychwanegol. Rydw i wir wedi mwynhau addasu sesiynau awyr agored at eu hanghenion a’u teilwra i gynorthwyo eu dysgu nôl yn yr ysgol.

Mae awyr iach yn gwneud byd o ddaioni i iechyd a llesiant plant ac oedolion, ac wir i chi rwy’n teimlo’r lles wrth anadlu awyr iach y wlad brydferth yma a phopeth sydd ganddi i’w gynnig yn ddwfn i fy ysgyfaint. Ein nod yw lledu manteision ein darpariaeth addysgol ar draws cynifer o gymunedau â phosibl, sy’n golygu fy mod i wedi gweithio gydag ysgolion ym mhob cwr o’r wlad, gyda’r fantais ychwanegol o weld rhai o’r golygfeydd mwyaf godidog a chwrdd â phobl a chydweithwyr newydd bendigedig ar hyd y ffordd. Pan nad oes grwpiau o blant eiddgar llawn cyffro o’m cwmpas, rwy’n gorfod pinsio fy hunan weithiau pan fo cyfarfod yn mynd â fi i hyfrydwch Cwm Elan neu pan fo ymweliad ysgol yn mynd â fi i arfordir anhygoel Sir Benfro.

A phrofiad un tymor yn unig yw hyn – alla’i ddim ag aros i weld beth a ddaw yn ystod gweddill y flwyddyn. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau a’m cymwysterau addysg awyr agored ymhellach. Rwy’n credu bod gen i lawer mwy i’w gynnig i’r rôl newydd yma, a phob dydd rwy’n fy ngwthio fy hun y tu hwnt i fy ffiniau cyffyrddus i ddarganfod rhywbeth newydd.