Eich bil blynyddol 2023
Cwestiynau cyffredin am eich bil blynyddol
Bydd ein cwsmeriaid mewn aelwydydd anfesuredig (y rheini nad oes ganddynt fesurydd dŵr) yn gweld eu taliadau yn cynyddu tua 9.4% ar gyfer 2023/24. Fodd bynnag, bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar Werth Ardrethol (RV) eu heiddo – h.y. gallai’r cynnydd fod yn fwy neu’n llai na 9.4%.
Bydd ein cwsmeriaid mewn aelwydydd mesuredig (y rheini sydd â mesurydd dŵr) yn gweld eu taliadau yn cynyddu tua 8% ar gyfer 2023/24. Fodd bynnag, bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar faint o ddŵr y maent yn ei ddefnyddio – h.y. gallai’r cynnydd fod yn fwy neu’n llai na 8% yn dibynnu ar faint o ddŵr y maent yn ei ddefnyddio.
Mae biliau blynyddol wedi cynyddu oherwydd cyfradd Chwyddiant. Mae hyn yn golygu bod pris nwyddau a gwasanaethau wedi cynyddu.
I ni, mae hyn yn golygu bod ein prisiau wedi cynyddu ar gyfer deunyddiau a chostau pŵer sydd eu hangen i gynhyrchu dŵr yfed glân a thrin gwastraff dŵr. Mae'r cyfyngiadau prisiau ar gyfer pob cwmni dŵr yn y DU yn cael eu pennu gan reoleiddiwr y diwydiant, Ofwat.
Os ydych yn cael trafferth fforddio eich bil blynyddol, peidiwch â dioddef yn dawel, rydym yn gwybod y gall bywyd fod yn llawn straen ac yn anrhagweladwy a gall amgylchiadau personol newid yn gyflym iawn.
Efallai y byddwn yn gallu eich helpu a chynnig cymorth ariannol, cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Cyfrifir eich bil blynyddol gan ddefnyddio system sgorio o'r enw Gwerth Ardrethol. Cyn 1990, rhoddwyd Gwerth Ardrethol penodol i bob eiddo gan eich cyngor lleol.
Ar y pryd, roedd Gwerthoedd Ardrethol yn cynnwys sawl peth fel maint, cyflwr a lleoliad eich cartref.
Defnyddiwyd Gwerth Ardrethol eich eiddo fel ffordd o gyfrifo eich taliadau dŵr anfesuredig. Gan taw nid ni a osododd eich gwerth ardrethol, nid ydym yn gallu ei newid.
Gan fod Gwerthoedd Ardrethol wedi'u gosod ar gyfer pob eiddo yn unigol, bydd adegau lle byddwch yn gweld eich bod yn talu mwy, neu lai, na'ch cymdogion er bod eich eiddo'n debyg iawn.
Efallai y bydd mesurydd dŵr gan rai cartrefi neu efallai eu bod ar dariff sy'n golygu y bydd eu bil yn wahanol.
Yn anffodus, ni fydd gennym ni, na'ch cyngor lleol, unrhyw fanylion am sut y cafodd eich eiddo ei asesu. Ataliwyd Gwerthoedd Ardrethol yn 1990 (oherwydd y cyflwynwyd y Dreth Gyngor), a oedd yn golygu nad oeddynt bellach yn cael eu hail-asesu na'u pennu ar gyfer unrhyw eiddo newydd a adeiladwyd ar ôl 1990.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich bil, peidiwch â dioddef yn dawel – siaradwch â ni. Rydym yn gwybod y gall bywyd fod yn llawn straen, yn anodd ei ragweld, a gall amgylchiadau personol newid yn gyflym iawn.
Efallai y gallwn eich helpu a chynnig cymorth ariannol. Gallwch hefyd sefydlu cynllun talu bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis, cliciwch yma i gael gwybod mwy.
Nid ydym yn cynnig gostyngiadau, rydym yn bilio ar gyfradd sefydlog ar gyfer eich eiddo. Os ydych yn sengl ac yn byw ar eich pen eich hun, gallai fod o fudd i chi fod â mesurydd dŵr a gallwch wasgaru cost eich bil drwy dalu'n wythnosol neu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol neu gerdyn talu.
Rheoli eich Cyfrif Dŵr Cymru ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer
Fy Nghyfrif
Gallwch weld gwybodaeth am eich balans, biliau, taliadau a llythyrau ar-lein ar yr adeg sydd fwyaf cyfleus i chi. Cofrestrwch ar gyfer Fy Nghyfrif i gael y gorau o'n gwasanaethau.
Ydych chi’n derbyn
y canlynol
- Taliad Tanwydd y Gaeaf
- Prydau ysgol am ddim
- Ydych chi’n cael Credydau Treth?
- Pensiwn
- Budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd
Edrychwch i weld a allech chi arbed £230 ar eich bil
Ffyrdd o leihau eich bil
1. Dewiswch un o’r opsiynau isod
Sgwrs fyw
Siaradwch ag un o'n hasiantau gwasanaeth cwsmeriaid croesawgar am eich bil blynyddol.
Agor sgwrs fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs fyw