Pibellau sy’n rhewi yn eich cartref


Os nad oes cyflenwad dŵr gennych yn ystod y tywydd oer, neu os yw pwysau'r dŵr wedi gostwng fel taw diferion yn unig gewch chi o'r tap, peidiwch â mynd i banig.

Beth i'w wneud os yw eich pibellau wedi rhewi?

  • Ffeindiwch eich stoptap mewnol a'i gau.
  • Draeniwch y system dŵr oer trwy fflysio'r tŷ bach a rhedeg y tapiau dŵr oer yn unig yn eich sinciau a’r bath.
  • Archwiliwch y pibellau am arwyddion o ddifrod, ac os yw'n ddiogel gwneud hynny, ceisiwch ddadmer y bibell sydd wedi rhewi trwy ddefnyddio poteli dŵr poeth neu dywel wedi ei wlychu mewn dŵr poeth, gan ddechrau ar ben y bibell. Peidiwch byth â defnyddio fflam agored neu lamp losgi i ddadmer y bibell.
  • Peidiwch byth â defnyddio fflam noeth neu lamp losgi i ddadmer pibell.
  • Agorwch y stoptap eto, a gwnewch yn siŵr bod eich dŵr yn rhedeg yn iawn.
  • Os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth, unrhyw bryd, ffoniwch blymwr cofrestredig.

Beth i'w wneud os oes pibell wedi byrstio?

Os oes pibell wedi byrstio, peidiwch â mynd i banig.

  • Ceisiwch ganfod ymhle mae'r twll - a datgysylltwch y cyflenwad trwy droi'r stoptap gyda’r cloc.
  • Mae’r stoptap yn edrych fel hyn fel rheol ac fel rheol bydd eich stoptap o dan sinc y gegin neu yn yr ystafell ymolchi lawr llawr - neu lle daw'r bibell gwasanaeth i mewn i'ch cartref.
  • Rhedwch yr holl dapiau yn y tŷ er mwyn lleihau faint o ddŵr sy’n gallu dianc.
  • Defnyddiwch dywelion trwchus i amsugno neu ddal y dŵr sy'n gollwng.
  • Diffoddwch offer trydan: os yw'r dŵr yn agos at unrhyw beth trydanol - gan gynnwys goleuadau, socedi neu offer - peidiwch â chyffwrdd â nhw. Mae gwifrau trydan sy'n cael eu difrodi gan ddŵr yn gallu bod yn beryglus dros ben, ac mae’n debygol bydd angen i chi ffonio rhywun proffesiynol i drwsio'r difrod.
  • Ffoniwch blymwr cofrestredig - os oes angen cymorth arnoch i drwsio pibell sydd wedi byrstio, cysylltwch â phlymwr sydd wedi cofrestru gyda Watersafe.

Pwy sy'n gyfrifol am drwsio'r broblem?

Pibellau sydd wedi rhewi ar eich eiddo Os yw'r pibellau yn eich cartref neu'ch gardd wedi rhewi, eich cyfrifoldeb chi yw hi. Bydd angen i chi alw plymwr cofrestredig.

Burst of leak pipe welsh

Beth ddylech chi ei wneud os nad oes cyflenwad dŵr gennych?

  • Ydyn ni'n gwneud gwaith yn eich ardal? Chwiliwch trwy'ch post rhag ofn ein bod ni wedi anfon llythyr atoch.
  • Ewch i'r dudalen Yn eich Ardal ar ein gwefan i weld a oes yna broblem yn eich ardal.
  • Holwch i weld a oes problem debyg gan eich cymdogion. Os oes e, ffoniwch ni
  • Os taw chi yw'r unig un heb gyflenwad dŵr, mae'n ddigon posibl bod y pibellau wedi rhewi yn eich eiddo.