Gorlifoedd Storm Cyfun (CSOs)


Mae Gorlifoedd Storm Cyfun (CSOs) a sut mae cwmnïau dŵr yn delio â dŵr glaw yn parhau i ddenu sylw sylweddol yn y cyfryngau. O ganlyniad, rydyn ni'n gwybod bod gennych chi ein cwsmeriaid lawer o gwestiynau a phryderon yn eu cylch, a hynny'n ddigon dealladwy. Gobeithio y gallwn ateb llawer o'r rheiny yma.

Heddiw, mae CSOs yn chwarae rhan annatod wrth gadw ein cartrefi a'n cymunedau ni i gyd yn ddiogel rhag y perygl o lifogydd carthion mewn cyfnodau o law trwm – sy'n digwydd yn amlach nawr yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni'n cytuno, mewn sefyllfa ddelfrydol ni fyddai angen y rhain, a phe baem ni'n adeiladu'r seilwaith o'r newydd heddiw, byddem yn ei adeiladu mewn ffordd wahanol iawn. Ond gwaetha’r modd, nid yw hynny'n bosibl.

Mae taclo effaith CSOs yn broses hirdymor, un lle mae angen i ni dorri tir newydd, addasu, a buddsoddi ynddi am flynyddoedd mawr i ddod. Rhwng nawr a 2025, byddwn ni'n buddsoddi bron i £100 miliwn i wella'r CSOs hyn fel eu bod nhw'n adlewyrchu disgwyliadau a blaenoriaethau newidiol ein cwsmeriaid, a hynny’n rhan o becyn ehangach i fuddsoddi £836 miliwn mewn gwaith i amddiffyn yr amgylchedd. Fel cwmni nid-er-elw, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ein gweithrediadau'n cael effaith niweidiol ar ein tir, ein hafonydd a'n moroedd nawr, nac ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.

Pan fo'n system garthffosiaeth yn gweithredu o dan amgylchiadau arferol, mae’r carthffosydd cyfun yn casglu'r dŵr glaw sy'n llifo oddi ar gwteri, draeniau a ffyrdd, yn ogystal â charthffosiaeth. Dŵr gwastraff yw'r enw ar hyn, ac mae'n cael ei gludo i'n gweithfeydd trin, lle mae'n cael ei lanhau, ei drin a'i ddychwelyd yn ddiogel i'r amgylchedd trwy gyrsiau dŵr neu'r môr.

Mewn tywydd stormus, mae mwy o ddŵr yn mynd i'n pibellau nag y gallant ymdopi ag ef, felly maent wedi cael eu dylunio i ryddhau'r pwysau sydd ar ein systemau mewn ffordd ddiogel. Gwneir hyn trwy adeiladu pwyntiau rhyddhau - o'r enw Gorlifoedd Storm Cyfun neu CSOs – i’r system, sy'n rhyddhau i gyrsiau dŵr.

Heb y pwyntiau rhyddhau yma, byddai'r system garthffosiaeth yn gorlenwi ac yn achosi llifogydd carthion mewn adeiladau ac ar strydoedd a phriffyrdd - neu'n waeth byth yn achosi i doiledau orlifo y tu fewn i eiddo.

Mae hi'n bwysig bod CSOs yn cael eu dylunio i weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau bod unrhyw garthffosiaeth sy'n bresennol yn cael ei wanhau’n sylweddol gan y dŵr glaw a’r dŵr wyneb os oes angen iddynt weithredu mewn cyfnodau o law trwm.

Mae gweithrediad ein CSOs yn cael ei reoleiddio'n dynn ac yn cael ei ganiatáu a'i fonitro gan ein rheoleiddwyr amgylcheddol, sef Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Am fod y newid yn yr hinsawdd yn dod ag amodau tywydd eithafol mwy cyson, mae hi'n bwysig cydnabod bod hyn yn cael effaith ar ein CSOs. Yn 2020, gwelodd y DU naw storm oedd yn ddigon mawr i'w henwi, a hi oedd y flwyddyn fwyaf gwlyb ers 1910. Ym mis Chwefror yn unig, torrwyd y record glawiad wrth i Storm Dennis daro gan achosi llifogydd mewn miloedd o gartrefi a busnesau. Am na chafodd ein system garthffosiaeth ei dylunio i ddelio ag amodau storm mor ddifrifol, mae hi'n anochel bod hyn yn golygu bod rhai o'r CSOs wedi gorfod gweithredu'n amlach.

Perfformiad y CSOs a monitro

Fel cwmni â chysylltiadau mor dynn â'r amgylchedd, rydyn ni'n cymryd ein perfformiad amgylcheddol o ddifrif calon. Diogelu ein dyfroedd arfordirol a'n hafonydd rhag llygredd yw un o'n blaenoriaethau pennaf.

Gyda'r ddeddfwriaeth amgylcheddol yn tynhau, a disgwyliadau cwsmeriaid yn newid, rydyn ni'n cydnabod bod mwy o ffocws ar sut mae CSOs yn gweithredu. Dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo i fod yn dryloyw gyda'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid am weithrediad ein CSOs.

Rydyn ni wedi buddsoddi £10.5 miliwn ers 2015 er mwyn gwella'r gwaith o fonitro ein CSOs, ac erbyn hyn mae gennym offer monitro llif ar 99% o'n holl CSOs. Mae'r offer monitro’n cofnodi nifer a hyd y gollyngiadau ac mae'r data yma - o'r enw data EDM - yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan fel y gwelir isod.

Rydyn ni'n darparu gwybodaeth amser real am y llif i mewn i ddyfroedd ymdrochi allweddol ar gyfer cyrff sydd â buddiant, gan gynnwys Syrffwyr yn Erbyn Carthffosiaeth.

Os yw'r offer monitro'n dweud wrthym nad yw CSO yn gweithio fel y byddem yn ei ddisgwyl, byddwn ni'n ymchwilio er mwyn canfod beth sy'n digwydd fel y gallwn gynllunio unrhyw welliannau neu fuddsoddiad sydd ei angen.

Er mwyn sicrhau bod hyn yn dderbyniol i Gyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd, rydyn ni'n rhannu ac yn trafod ein data EDM â nhw'n flynyddol. Gallan nhw ein helpu ni i benderfynu a blaenoriaethu beth, os rhywbeth, y mae angen ei wneud am y gorlifoedd ac erbyn pryd.

Data EDM 2021

Isod mae dolenni at y data o’n hoffer monitro ar gyfer 2021 wedi ei rannu yn ôl ardaloedd daearyddol ein hardal weithredol.