Covid-19 – Ein cwsmeriaid mewn ardaloedd dan cyfyngiadau leol

18:00 28 September 2020

Gyda Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cyfyngiadau tynn mewn ardaloedd dros Gymru, mae angen i ni gymryd rhagofalon pellach i helpu i gadw ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid yn ddiogel yn yr ardaloedd yma. Yr ardaloedd ar hyn o bryd yw:

  • Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
  • Dinas Casnewydd
  • Llanelli (tref)
  • Caerdydd
  • Abertawe
  • Bro Morgannwg
  • Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Rydyn ni'n gwybod nad yw ein rôl - sef darparu gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff - erioed wedi bod yn bwysicach. Fel gweithwyr allweddol hanfodol, fe welwch chi weithwyr Dŵr Cymru allan yn gweithio mewn cymunedau dros yr ardaloedd hyn er mwyn cadw gwasanaethau'n rhedeg, ond byddwn ni'n parhau i ymarfer trefniadau diogelwch a chadw pellter cymdeithasol yn ofalus. Bydd ein cydweithwyr hefyd yn cadw at y rheolau o rhan gwisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus tu fewn.

Am y tro, byddwn ni'n cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi yn yr ardaloedd yma i argyfyngau neu waith hanfodol, er enghraifft os oes gennych broblem gyda'ch cyflenwad dŵr neu os oes llifogydd yn yr eiddo. Cysylltwch â ni fel arfer a byddwn ni'n eich cynghori am y camau nesaf.

Bydd ein timau'n cysylltu â chi cyn dod i gadarnhau nad oes neb yn dioddef symptomau o COVID-19 ac nad oes neb wedi arddangos symptomau o’r fath (yn y 48 awr diwethaf).

Rydyn ni'n deall bod hyn yn gallu bod yn anghyfleus, ond yn gobeithio eich bod chi'n deall ein bod ni'n gwneud hyn er mwyn eich cadw chi a'ch teulu'n ddiogel.

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau trwy'r wefan hon a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol - Facebook & Twitter.

Sut i ddarllen eich mesurydd


Rydyn ni’n annog ein cwsmeriaid i ddarllen eu mesurydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn sylwi ar unrhyw gynnydd mewn defnydd yn gyflym. Ond peidiwch â cheisio darllen y mesurydd oni bai ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny.

Cynghorion wrth ddarllen eich mesurydd:

  • Bydd manylion lleoliad y mesurydd a’r rhif cyfresol ar eich bil dŵr.
  • Agorwch y caead metel ar siambr y mesurydd dŵr.
  • Os oes gorchudd polystyren gwrth-rew ar ben y mesurydd, codwch e.
  • Mae caead arall ar rai o’n mesuryddion; os oes un ar eich mesurydd chi, agorwch e i weld wyneb y mesurydd.
  • Gwnewch yn siŵr bod y rhif cyfresol ar eich bil yr un fath â’r un sydd ar eich mesurydd.
  • Nodwch y rhifau gwyn ar gefndir du, neu ddu ar gefndir gwyn (nid oes angen y rhifau coch).

Ble mae’r mesurydd?

Fel rheol, bydd y mesurydd yn y ddaear o flaen eich cartref, ar ffin yr eiddo, neu yn y palmant. Mewn ardaloedd gwledig, mae’n bosibl y bydd y mesurydd gryn bellter o’r eiddo. Os ydych chi’n ansicr ble mae’ch mesurydd, bydd disgrifiad byr o leoliad eich mesurydd ar eich bil.

Sut mae clirio dŵr anwedd o’r mesurydd?

Weithiau, os yw hi wedi bod yn bwrw glaw, bydd dŵr anwedd ar y gwydr ac ni fydd modd gweld y rhifau. Yma rydyn ni’n esbonio sut y dylech chi glirio’r dŵr anwedd er mwyn darllen y mesurydd.

Os oes magnet ar y mesurydd:

  • Gosodwch rywbeth metel dros y magnet.
  • Defnyddiwch y peth metel i symud y magnet yn ôl ac ymlaen dros ben y rhifau.
  • Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, symudwch y magnet allan o’r ffordd a darllenwch y mesurydd.

Os oes min sychu plastig clir ar y mesurydd:

  • Symudwch y min sychu yn ôl ac ymlaen dros y rhifau.
  • Pan fyddwch chi’n gallu gweld y rhifau’n glir, rhowch y min sychu uwchben y rhifau fel eich bod chi’n gallu darllen y mesurydd.

Am ddarlleniadau’r cwmni

Rydyn ni’n ceisio darllen y mesurydd bob chwe mis, ond rydyn ni’n gwybod nad yw rhai cwsmeriaid sydd â mesuryddion yn eu cartrefi am i ni darfu arnyn nhw. Mewn achosion fel hyn, byddwn ni’n derbyn darlleniadau’r cwsmeriaid, ond bydd angen i ni gymryd ein darlleniad ein hun o leiaf unwaith bob dwy flynedd.