Amddiffyn eich hun rhag galwyr ffug
Mae galwyr ffug yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn dod i mewn i’ch cartref, lle byddan nhw’n ceisio dwyn arian neu eitemau gwerthfawr. Weithiau maen nhw’n esgus bod yn rhywun sy’n gweithio i Dŵr Cymru (neu ‘y bwrdd dŵr’). Maen nhw fel arfer yn targedu pobl oedrannus neu bobl sy’n agored i niwed.
Mae’n gas gennym ni alwyr ffug. Felly, rydyn ni’n gwneud ein gorau i’ch cadw chi a’ch cartref yn ddiogel.
Llinell Gymorth Galwyr Ffug - 0800 281 141
Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng y bobl dda (ni yw’r rheiny!) a’r bobl ddrwg
Arwyddion rhybudd
Pan fydd galwyr ffug yn curo ar eich drws:
- Fyddan nhw ddim wedi trefnu ymlaen llaw
- Fyddan nhw ddim yn fodlon i chi edrych yn fanwl ar eu cerdyn adnabod (os oes un ganddyn nhw)
- Byddan nhw’n aml yn gweithio mewn parau
- Byddan nhw’n ceisio’ch rhoi chi o dan bwysau
- Byddan nhw’n gofyn am arian
Mae rhai’n edrych yn gredadwy – mewn dillad sy’n edrych yn swyddogol a cherdyn adnabod ffug. Maen nhw’n gallu bod yn gyfeillgar a pherswadiol.
Gweithwyr go iawn
Mae cerdyn adnabod gan bawb sy’n gweithio i Ddŵr Cymru ac maen nhw’n barod i’w ddangos. Fel rheol, rydyn ni’n gyrru faniau â logo Dŵr Cymru arnyn nhw. Weithiau, rydyn ni’n defnyddio contractwyr sydd â faniau cwmnïau gwahanol ond bydd ganddyn nhw eu cerdyn adnabod eu hunain a byddan nhw’n dilyn yr un rheolau â gweithwyr Dŵr Cymru. Dydyn ni byth yn gofyn am arian na’n derbyn arian oddi wrthych yn eich cartref. Ac fel rheol, byddwn wedi trefnu ymlaen llaw i alw, felly byddwch yn ein disgwyl.
Y Rheol CAFf
Pan fyddwch yn ateb y drws i rywun sy’n dweud eu bod yn gweithio i Ddŵr Cymrum, dilynwch y rheol CAFf – CERDYN, ASTUDIO a FFONIO.
1. CERDYN
Gofynnwch am gael gweld ein cardiau adnabod – wnawn ni ddim pwdu! Yn wir, mae ein holl weithwyr a chontractwyr yn barod iawn i wneud hyn. Os hoffech, gallwn roi ein cardiau adnabod trwy’r twll llythyrau i chi gael eu gweld. Edrychwch yn fanwl – does dim brys.
2. ASTUDIO
Astudiwch y cerdyn adnabod yn ofalus:
- Ai llun yr un sy’n sefylll wrth y drws sydd ar y cerdyn adnabod?
- Oes rhywun wedi ymyrryd â’r cerdyn neu a yw’n edrych yn amheus?
- Cymerwch eich amser. Rydyn ni’n barod iawn i aros y tu allan tra byddwch chi'n ei astudio. Fyddwn ni ddim yn rhoi pwysau arnoch i’n gadael i mewn.
Os nad ydych yn hollol siwr, PEIDIWCH â gadael i ni ddod i mewn!
3. FFONIO
Os nad ydych yn siŵr, ffoniwch y Llinell Gymorth Galwyr Ffug ar 0800 281 141. Gallwn ni ddweud a yw’r galwr yn gweithio i ni go iawn. Byddai’n well gennym i chi ffonio na chael eich twyllo. Os yw'r sawl sy'n galw yn rhoi pwysau arnoch o gwbl, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999.
Os nad ydych yn hollol siwr bod y sawl sydd wrth y drws yn ddilys, peidiwch â gadael iddynt ddod i mewn i’r tŷ.
Cynllun Cyfrinair
Er mwyn i chi deimlo'n fwy diogel, gallwn drefnu i ddefnyddio cyfrinair (password) pan fyddwn yn galw gyda chi. Cewch ddewis cyfrinair hawdd ei gofio a’i gofrestru trwy ein ffonio ar 0800 052 0145. Byddwn yn defnyddio’r cyfrinair bob tro y byddwn yn galw (ac os na wnawn ni, peidiwch â gadael i ni ddod i mewn!).
CADWCH NHW ALLAN
CYFRINAIR I’CH AMDDIFFYN
I gofrestru cyfrinair, ffoniwch 0800 052 0145
o.n. Fel rheol, mae galwyr ffug yn targedu pobl oedrannus ac agored i niwed ac, yn aml, does gan y bobl hyn ddim cysylltiad â’r rhyngrwyd. Gallwch chi helpu trwy sôn wrth eich perthnasau a’ch cymdogion.