COVID-19 (Coronafeirws) – Neges i'n Cwsmeriaid

09:00 04 January 2021

Ry'n ni'n gwybod ei bod hi'n gyfnod anodd a heriol i'n cwsmeriaid. Ry'n ni'n gwybod hefyd bod y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn yn allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelu ein cymunedau.

Fel ry'n ni wedi bod yn ei wneud trwy gydol y pandemig, fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i amddiffyn ein cydweithwyr, a hynny wrth gynnal ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid. Fe welwch chi ni'n gweithio mewn strydoedd a chymunedau o hyd yn ystod y cyfnod hwn, ond dim ond gwaith hanfodol a fydd yn helpu i amddiffyn iechyd y cyhoedd trwy gynnal ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff allweddol a gaiff ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwn. Ni fyddwn ni'n gwneud unrhyw waith sy’n gofyn ein bod ni'n mynd i mewn i eiddo cwsmeriaid oni bai bod argyfwng.

Bydd ein Canolfan Gysylltu am Filiau yn parhau i weithredu rhwng 8am a 6pm (dydd Llun i ddydd Gwener) ac mae'r ganolfan ar gael i gynorthwyo ein cwsmeriaid mwyaf bregus sy’n wynebu caledi oherwydd effeithiau’r coronafeirws.

Os yw'r coronafeirws wedi effeithio ar eich sefyllfa chi, a'ch bod chi'n poeni am eich bil dŵr, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch, gallwch ddiweddaru eich cyfrif, rhoi gwybod i ni eich bod chi'n symud, a threfnu debyd uniongyrchol trwy ein gwasanaethau ar lein.

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau trwy'r wefan hon a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol - Facebook & Twitter.

Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i barhau i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol, a hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth.

Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol


Wrth dalu drwy ddebyd uniongyrchol bydd gennych y dewis o rannu eich bil yn rhandaliadau a gwneud taliadau sy’n fwy hyblyg i chi a hynny heb gost ychwanegol.

Beth yw buddion sefydlu cynllun talu Debyd Uniongyrchol?

  • Gallwch rannu eich bil yn rhandaliadau (heb unrhyw gost ychwanegol)
  • Mae cynllun talu yn ei gwneud yn haws i chi gynllunio eich trefniadau ariannol
  • Mae gennych hyblygrwydd i ddewis pa mor aml yr ydych yn talu

Faint bydd yn rhaid i mi ei dalu?

Pan rydym yn cyfrifo swm eich rhandaliad, byddwn ni’n sicrhau bod eich taliadau yn talu eich costau presennol ac unrhyw ôl-ddyledion (os yw’n berthnasol).
Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint bydd hyn pan fyddwn wedi sefydlu eich cynllun. Os ydych chi’n credu nad yw’r taliadau’n fforddiadwy, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni drafod opsiynau talu eraill gyda chi.