Ychwanegu neu ddileu enw o gyfrif


Rydym ni’n gwybod bod llawer o amgylchiadau gwahanol wrth sôn am ychwanegu enw at gyfrif neu ddileu enw.

Cwsmeriaid Newydd

Os ydych yn symud i mewn gyda rhywun nad oes ganddyn nhw gyfrif gyda ni, gallwch agor cyfrif newydd yn enw’r ddau ohonoch.

Cwsmeriaid Presennol

Os ydych yn symud i mewn gyda rhywun â chyfrif gyda ni eisoes ac yn dymuno ychwanegu’ch enw, bydd angen i ni gau’r cyfrif presennol ac agor un newydd yn enw’r ddau ohonoch.

Os hoffech ddileu eich enw o gyfrif ar y cyd, bydd angen i chi gau’r cyfrif presennol ac agor un newydd yn enw’r unigolyn a fydd yn parhau i fyw yno.

Os oes angen i chi ddileu enw o gyfrif oherwydd profedigaeth, gallwch roi gwybod i ni yma.

1. Cysylltwch

Gyrrwch neges i ni drwy Gyfryngau Cymdeithasol

Gallwn helpu gydag ymholiadau o ddydd i ddydd trwy Neges Uniongyrchol ar Facebook a Twitter.

Sgwrs Fyw

Os ydych chi angen cyngor, mae ein gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid yma i’ch helpu. 8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn.

Agor Sgwrs Fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs Fyw

Unrhyw gwestiynau eraill?

Os nad ydych chi’n gallu gadael i ni wybod ar-lein, yna siaradwch â gweithredwr gwasanaeth cwsmeriaid

0800 052 6058

8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn

Ein hamseroedd ffonio prysuraf

Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.