Llogi safbibellau / defnydd anghyfreithlon


Ers 1 Hydref 2016 mae’r broses o logi safbibellau i’w defnyddio yn rhwydwaith Dŵr Cymru wedi newid.

Llogi Safbibell

Ceir llogi safbibellau gan ein hasiant penodedig Aquam Water Services. Ni fydd safbibellau ar gael i’w llogi o’n depos lleol mwyach.

Sylwer: Gwybodaeth bwysig

Mae’n anghyfreithlon defnyddio unrhyw beth heblaw safbibell yr ydych chi wedi ei llogi gennym ni, ac mae’n mynd yn groes i Ddeddf y Diwydiant Dŵr ac ystyrir hynny yn lladrad dŵr, a fydd yn arwain at erlyniaeth os cewch eich dal.

Mae defnyddio safbibell heb falf atal adlif hefyd yn peri risg o lygru’r cyflenwad dŵr.

Gallech ddod o hyd i ardaloedd yn ein rhwydwaith sydd wedi eu cloi. Diben y rhain yw diogelu ein cwsmeriaid rhag effaith llifoedd uwch a grëir oherwydd defnydd gan drydydd partïon a’r posibilrwydd o gael dŵr sydd wedi newid lliw. Pe byddech yn dod o hyd i un o’r rhain, cysylltwch ag Aquam Water Services, ein darparwr trydydd parti i gael cyngor ychwanegol.

Os oes angen safbibell arnoch er mwyn cyflenwi dŵr i safle adeiladu (Cyflenwad Adeiladu) gallai fod yn ofynnol i chi gael gafael ar gysylltiad â’n rhwydwaith. Cysylltwch â’n Gwasanaethau i Ddatblygwyr.

Byddwch yn arwr hydrantau

Helpwch ni i gadw ein dŵr yn lân ac yn ddiogel

Beth yw'r broblem?

Mae llawer o broblemau'n codi am fod pobl yn defnyddio safbibellau i wneud cysylltiadau anghyfreithlon â'n rhwydwaith dŵr, fel arfer trwy gysylltu trwy all-lifoedd neu hydrantau tân.

Nid mater o bobl yn ‘cymryd’ tipyn bach o gyflenwad dŵr digonol yn unig mo hyn. Nid yw'r bobl hyn wedi cael hyfforddiant, ac mae'n beryglus iddyn nhw ac i'n cwsmeriaid. Mae'n gallu achosi anafiadau, rhwygiadau, peryglu ansawdd y dŵr, afliwio cyflenwadau dŵr a denu cwynion gan gwsmeriaid.

Sut mae gwybod os yw cysylltiad yn gyfreithlon ai peidio?

Defnydd anghyfreithlon Defnydd cyfreithlon
 Wrong 1  Correct 1
 Wrong 2  Correct 2

 Adnabod defnydd anghyfreithlon

Nid yw'r safbibell yn goch.

 Gweld coch?

Mae hynny'n beth da. Coch llachar

yw lliw'r safbibellau cyfreithlon newydd.

Reit, dwi'n meddwl y gallai'r cysylltiad fod yn anghyfreithlon, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi'n amau bod rhywun yn cysylltu â'n rhwydwaith yn anghyfreithlon, dylech:

  1. Nodi'r lleoliad ac unrhyw sylwadau a allai helpu Aquam h.y. math, maint, lliw'r cerbyd neu a oes brand ar y cerbyd. Byddai lluniau o'r safbibell yn ddefnyddiol hefyd, ond peidiwch â gwneud hyn oni bai ei bod hi'n ddiogel gwneud hynny.
  2. Cysylltwch ag Aquam on 01792 346557 neu e-bost welshwater@waterservicesltd.com
  3. Wedyn bydd Aquam yn ymchwilio i'r mater.