Llygredd afonol


Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn gweithio i amddiffyn afonydd a dyfrffyrdd eraill trwy drin y dŵr gwastraff o’n cartrefi a'n busnesau a’i ddychwelyd yn ddiogel i’r amgylchedd. Mae’r gwaith yma’n gofyn am lwyth o offer a miloedd o gilomedrau o garthffosydd.

Helpwch ni i leihau llygredd mewn dŵr trwy roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os gwelwch chi lygredd carthion mewn afon, nant neu gwrs dŵr arall.

Ein nod yw ‘dim goddefgarwch’:

Mae gweledigaeth Dŵr Cymru’n syml, sef ‘ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd’.

Mae’r weledigaeth hon yn adlewyrchu ein strwythur perchnogaeth unigryw fel cwmni dŵr nid-er-elw. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym, felly gallwn ganolbwyntio’n llwyr ar gyflawni’r gwerth gorau posibl am arian ac ail-fuddsoddi ein helw yn y busnes er mwyn gwella’r deilliannau i’n cwsmeriaid a’r amgylchedd.

Mae ein model yn ei gwneud hi’n haws i ni ganolbwyntio ar yr hirdymor, a fydd yn hanfodol wrth reoli’r sialensiau y gallwn ddisgwyl eu hwynebu yn y dyfodol, fel y newid yn yr hinsawdd ac ymlediad trefol. Mae ein gweledigaeth ar gyfer 2050 yn pennu ein dyhead i ddelio â’r sialensiau hyn gan ddefnyddio atebion cynaliadwy tymor hir.

Mae llygredd carthion wedi ei gynnwys yng ngweledigaeth ein cwmni: “…y dylai cwsmeriaid fod yn gallu edrych ymlaen at: …ddull gweithredu ar sail dim goddefgarwch o ran llygredd”.

Chwarae eich Rhan

Os gwelwch chi lygredd o’n pibellau neu offer arall, ffoniwch ein llinell gymorth ar unwaith ar 0800 085 3968 neu rhoi gwybod llygredd carthffosydd ar-lein yma.

Rhannwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi am y dŵr llygredig, yn ogystal â’ch manylion cyswllt. Byddwn ni’n ymchwilio ac yn cymryd unrhyw gamau sy’n angenrheidiol. Ac os ydych chi’n dymuno, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.

Cynnwys y gymuned

Os ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ac am gael gwybodaeth am lygredd, neu gyngor am brosiect cymunedol efallai, anfonwch neges e-bost atom gyda’ch cais a’ch manylion cyswllt yn RiverQualityLiaison@dwrcymru.com. Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.

Sut y gallwch chi helpu i leihau’r perygl o lygredd?

Rhwystrau yn y system garthffosiaeth sy’n achosi’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau o lygredd.

Gallwch chi ein helpu ni trwy:

  • Daflu weips, ffyn gwlân cotwm a nwyddau mislif i’r bin.
  • Cael gwared ar fraster, olew a saim mewn ffordd gyfrifol yn hytrach na’u golchi i lawr y sinc
  • Sicrhau bod offer dŵr llwyd fel sinciau, peiriannau golchi llestri a dillad yn gysylltiedig â’r garthffos fudr, nid y system dŵr wyneb er mwyn atal camgysylltiad.

Byw a dysgu gyda dŵr

A ydych chi’n awyddus i’ch plant ddysgu rhagor am y rôl hanfodol y mae dŵr yn ei chwarae yn ein bywydau pob dydd? Mae gennym gyfoeth o wybodaeth ac adnoddau difyr, sydd oll yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol. Fe’u datblygwyd gydag arbenigwyr addysgol i sbarduno ac addysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Gellir cael rhagor o fanylion trwy glicio yma.

CSOs

Bwriedir i CSOs weithredu mewn cyfnodau o law trwm felly os ydyn nhw’n gweithredu, mae unrhyw garthion sy’n bresennol yn cael eu gwanhau’n sylweddol gan ddŵr glaw a dŵr wyneb.

Mae gweithrediad ein CSOs yn cael ei reoleiddio’n dynn iawn ac mae’n cael ei ganiatáu a’i fonitro gan ein rheoleiddwyr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rydyn ni’n gweithio’n galed i leihau llygredd dŵr, ond os nad yw ein hasedau’n gweithredu fel y dylent, neu os oes yna broblem, yna mae’n bosibl y gallem achosi llygredd.

Ein hymrwymiad i chi

, 0B

Ers 2001, mae Dŵr Cymru wedi bod yn eiddo i Glas Cymru – cwmni ‘nid-er-elw’.