COVID-19 (Coronafirws) – Neges i'n Cwsmeriaid – 30 Mawrth 15:00

Ry'n ni'n gwybod ei bod hi'n gyfnod anodd. Ry'n ni'n gwybod hefyd bod y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn yn chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelu'r cwsmeriaid a'r cymunedau a wasanaethwn.

Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i amddiffyn ein cydweithwyr, a hynny wrth gynnal ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid hefyd. Fe welwch chi ni'n gweithio mewn strydoedd a chymunedau o hyd yn ystod y cyfnod hwn, ond dim ond gwaith hanfodol a fydd yn cynorthwyo iechyd y cyhoedd trwy gynnal gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff ein cwsmeriaid a gaiff ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwn.

Mae ein Canolfan Alwadau Bilio ar agor o 9yb – 5yp (Llun – Gwener) i helpu ein cwsmeriaid fwyaf bregus sydd wedi eu heffeithio gan y Coronafeirws.

Os yw COVID-19 (Coronafirws) yn cael effaith ar eich sefyllfa ariannol a'ch bod chi'n poeni am eich bil dŵr, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn y cyfamser gallwch ddiweddaru eich cyfrif, rhoi gwybod i ni eich bod chi'n symud a threfnu debyd uniongyrchol trwy fynd i'n gwasanaethau ar lein.

Byddwn yn ni'n parhau i rannu gwybodaeth a chi am unrhyw newidiadau eraill sy'n codi trwy'r wefan hon a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol - Facebook & Twitter.

Ymddiheurwn am hyn, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i barhau i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol. Diolch i chi am eich amynedd.

Beth y gallwch chi ei wneud

Os gallwch chi, codwch orchuddion ysgafn unrhyw Siambrau Archwilio, ond dim ond y rhai sydd ar eich eiddo chi. Edrychwch i weld a yw’r pibellau danddaear yn glir ai peidio, ac a yw’r ddŵr yn llifo’n rhydd. Mae gorchuddion y Siambrau Archwilio yn agos at y tŷ fel rheol, ar y dreif neu yn yr ardd.

Os yw’r pibellau danddaear yn glir, yna mae’r broblem siŵr o fod yn eich pibell carthffosiaeth breifat (a elwir yn ddraen) a’ch cyfrifoldeb chi fydd clirio’r rhwystr. Cewch alw plymwr neu gontractwr preifat i wneud hyn (chwiliwch yn y llyfr ffôn o dan ‘drain’).

Bwrwch olwg ar unrhyw bolisïau yswiriant sydd gennych ar gyfer eich cartref neu’ch adeiladau yn gyntaf, am ei bod hi’n bosibl fod gennych yswiriant am gost clirio rhwystrau.

Os yw’r broblem yn effeithio ar fwy nag un eiddo, os oes dŵr yn gorlifo y tu hwnt i ffin eich eiddo (e.e. yn y ffordd), neu os ydych chi’n gwybod bod y pibellau carthffosiaeth ar eich eiddo’n cymryd carthffosiaeth o fwy nag un cartref, yna mae’n bosibl bod y broblem ar y rhwydwaith o garthffosydd cyhoeddus. Os felly, ni sy’n gyfrifol a dylech roi galwad i ni ar

0800 085 3968

Aa