Fy nghyfrifoldebau | Dwr Cymru Welsh Water

Dydd Llun, 17eg Chwefror

Gyda llifogydd dal yn effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru a Swydd Henffordd, rydym yn derbyn llawer iawn o alwadau ar hyn o bryd oherwydd y gwyntoedd cryfion a’r glaw trwm ac mae ein criwiau yn hynod o brysur.

Dyma rai o’r sefydliadau y gallai fod angen i chi gysylltu â nhw:

Cyfoeth Naturiol Cymru - 0800 80 70 60 (24 awr) – os yw’r llifogydd yn dod o gwrs dŵr (fel nant) sydd bron â gorlifo’i glannau neu sydd wedi gwneud hynny.

Eich Cyngor Lleol – os ydych yn amau bod y llifogydd o ganlyniad i ddŵr daear yn codi neu ddŵr ffo ar yr wyneb.

Gwasanaethau ac Argyfyngau Carthffosiaeth Dŵr Cymru – 0800 085 3968 (24 awr) neu rhowch wybod am broblem drwy ffurflen ar y we – ar gyfer llifogydd sydd y tu mewn i’ch eiddo oherwydd bod carthffos wedi’i rhwystro neu yn orlawn.

Fy nghyfrifoldebau

Am ein bod ni'n cludo'ch holl ddŵr brwnt i ffwrdd, efallai eich bod chi'n meddwl taw ni sy'n gyfrifol am yr holl ddraeniau, a'r garthffos. Ond eich cyfrifoldeb chi neu eich landlord yw rhai o'r pibellau mewn gwirionedd.

Beth sy'n eiddo i chi?

Y pibellau porffor yn y darlun isod. Chi sy'n gyfrifol am y pibellau sy'n casglu'r dŵr gwastraff o'ch eiddo chi yn unig, ac sy'n gorwedd y tu fewn i'ch cartref neu o fewn ffiniau eich eiddo.

Beth i'w wneud os oes bloc ar eich pibellau?

Os nad oes problem gan neb o'ch cymdogion, mae'n debygol bod y bloc ar eich pibellau preifat. Os oes problem gydag unrhyw un o'ch pibellau preifat, cysylltwch â chontractwr draenio da a fydd yn gallu’ch helpu chi. Chi, neu yswirwyr eich cartref fydd yn gorfod talu'r gost o ddatrys unrhyw ddiffygion ar y pibellau hyn.

Beth sy'n eiddo i ni?

Y pibellau coch yn y darlun isod. Ni, yn fwy na thebyg, sy’n gyfrifol am y pibellau sy'n draenio eich cartref ond sy'n gorwedd y tu hwnt i ffin eich eiddo, a'r pibellau sy'n eich gwasanaethu chi a'ch cymdogion.

Beth i'w wneud os ydych chi'n credu bod bloc ar bibellau Dŵr Cymru?

Os ydych chi'n amau bod bloc yng ngharthffos Dŵr Cymru, rhowch alwad i ni ar 0800 085 3968 a byddwn ni'n ymchwilio i'r broblem.

Beth sy'n eiddo i'r Cyngor?

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw floc ar yr eiddo y maen nhw'n eu rheoli, ac mewn draeniau ar briffyrdd a chwteri.

Ansicr ymhle mae'r bloc?

Weithiau mae'n gallu bod yn anodd canfod ymhle mae'r bloc. Os ydych chi'n ansicr pwy sy'n gyfrifol am y pibellau dŵr gwastraff, cysylltwch â ni ar 0800 085 3968 a gallwn ni eich helpu i ganfod pwy sydd biau'r bibell.

Sewer responsibility

Er mwyn helpu i wella’r cofnodion sydd gennym o systemau draenio, byddem yn croesawu copïau o unrhyw gynlluniau sydd gennych sy’n dangos y draeniau o gwmpas eich cartref.

Hoffem pe baech yn ebostio copi digidol (wedi’i sganio neu wedi tynnu llun â chamera mewn fformat .pdf neu .jpg os oes modd) atom yn gis.bureau@dwrcymru.com

Neu gallwch anfon copi papur trwy’r post i:

GIS Bureau
Dŵr Cymru Welsh Water
Linea
Fortran Road
Llaneirwg
Caerdydd
CF3 0LT

* Cofiwch ddweud wrthym beth yw cyfeiriad yr eiddo yn y cynllun.

Does dim angen i chi anfon llythyr na rhagor o fanylion gyda’ch cynllun.

Aa