Cyn Cynllunio | Gwasanaethau i Ddatblygwyr | Dŵr Cymru Welsh Water

Dydd Llun, 17eg Chwefror

Gyda llifogydd dal yn effeithio ar lawer o gymunedau yng Nghymru a Swydd Henffordd, rydym yn derbyn llawer iawn o alwadau ar hyn o bryd oherwydd y gwyntoedd cryfion a’r glaw trwm ac mae ein criwiau yn hynod o brysur.

Dyma rai o’r sefydliadau y gallai fod angen i chi gysylltu â nhw:

Cyfoeth Naturiol Cymru - 0800 80 70 60 (24 awr) – os yw’r llifogydd yn dod o gwrs dŵr (fel nant) sydd bron â gorlifo’i glannau neu sydd wedi gwneud hynny.

Eich Cyngor Lleol – os ydych yn amau bod y llifogydd o ganlyniad i ddŵr daear yn codi neu ddŵr ffo ar yr wyneb.

Gwasanaethau ac Argyfyngau Carthffosiaeth Dŵr Cymru – 0800 085 3968 (24 awr) neu rhowch wybod am broblem drwy ffurflen ar y we – ar gyfer llifogydd sydd y tu mewn i’ch eiddo oherwydd bod carthffos wedi’i rhwystro neu yn orlawn.

Mae ein tîm penodedig o swyddogion cynllunio yma i gynnig cymorth a chyngor i chi. Os ydych chi’n datblygu safle newydd, neu yn ystyried gwneud hynny, cysylltwch â ni mor gynnar ag y gallwch chi yn y broses o gynllunio eich project, a gallwn ni roi gwybod i chi a yw ein rhwydwaith leol yn gallu darparu ar gyfer eich cynnig ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau.

Noder:

  • Er mwyn gwneud cais ar lein, bydd arnoch angen cerdyn credyd neu ddebyd dilys
  • Y Ffi gyfredol i wneud cais (sydd i’w dalu adeg cyflwyno’r cais – ac na ellir ei ad-dalu) yw £133/cais
  • Caiff TAW ei ychwanegu at y tâl hwn ar y gyfradd safonol
Aa