RYDYCH YMA > Hafan > Defnyddio dŵr yn effeithiol > Doeth yn yr ardd

Doeth yn yr ardd

corner

Cysylltu â ni

  • Ymholiadau cyffredinol - Clic yma i anfon ebost neu galwch 0800 052 0145
Clic - arbed dwr yn y gegin Clic - arbed dwr mewn ystafell ymolchi
Clic - arbed dwr yn yr ardd Clic – arbed dwr yn yr ysgol

 

Doeth gyda dŵr yn yr ardd a thu allan eich cartref:

Thumbs up

osgoi defnyddio taenellwr yn yr ardd – defnyddio can dŵr neu bibell law

 

Thumbs up

defnyddio can dŵr i ddyfrio planhigion, o amgylch y bonion yn unig

Thumbs up os bydd rhaid defnyddio pibell, gosod teclyn i’w droi i ffwrdd pan fydd angen
Thumbs up

trio dyfrio’r ardd fin nos pan fydd llai o anweddiad

Thumbs up

casglu dŵr glaw mewn casgen yn hytrach na gwastraffu dŵr yfed ar yr ardd

Thumbs up

mae chwarae gyda phibell yn hwyl ar ddiwrnod poeth – ond bydd pistol yn defnyddio lot llai o ddŵr

Thumbs up defnyddio bwced a sbwng i lanhau’r car, nid pibell
Thumbs up peidio defnyddio pibell i lanhau llwybrau ac ati – defnyddio brwsh neu offer glanhau yn lle.

 

Planhigion

Thumbs up

creu pwll bach o gwmpas coed a llwyni i gasglu dŵr

Thumbs up

rhoi polythen tu fewn potiau terracotta a basgedi er mwyn gostwng anweddiad

Thumbs up

rhoi grisialau dŵr mewn potiau a basgedi er mwyn cadw compost yn llaith

Thumbs up gosod gwellt o gwmpas planhigion er mwyn gostwng anweddiad
Thumbs up osgoi torri lawntiau’n fyr a chompostio’r gwellt.

 

Ystyried planhigion sy’n goddef sychder

Planhigion sy’n defnyddio llai o ddŵr
Planhigion suddlon fel biwlys, lafant, mintys y gath, iorwg, perfagl, iris, pabi, pig y crëyr, perlysiau a phlanhigion dail llwyd

Planhigion sy’n defnyddio lot o ddŵr
Astilbe, asalea, hosta, briallu, melyn Mair, cwyros, helyg, ysgawen, bambŵ, gwifwrnwydd, clematis a rhai acers

 

Llysiau

Mae cnydau deiliog a phlanhigion fel bresych gwyn, brocoli, shibwns, tatws, ffa dringo & tomatos angen lot o ddŵr; asbaragws, betys coch a chnydau eraill angen llai.

 

Os yn gweld dŵr yn gollwng, galwch 0800 281 432.
corner

Gwybodaeth bellach

Defnyddio dwr yn ddoeth

Defnyddio dwr yn ddoeth

Clic i ddarllen ffeil PDF Acrobat.

Ffeil: 246kb

Bag Hippo

Bag Hippo

Clic i archebu bag ar-lein

DIY water audit - Home

DIY Archwiliad Dwr i'w Gyflawni yn y Cartref

Clic yma i ddarllen mwy.

DIY water audit - Schools

DIY Archwiliad i'w Gyflawni gan Ysgolion

Clic yma i ddarllen mwy.

DIY water audit - Business

DIY Archwiliad Dwr i'w Gyflawni gan Adeiladau Busnes

Clic yma i ddarllen mwy.