Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau gwaith ar gynllun yn Y Fflint, a fydd yn cynorthwyo i ddiwallu gofynion datblygiad tai yn y dyfodol yn yr ardal.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cynhyrchu adroddiad blynyddol ar ffilm i gynorthwyo i hysbysu’u cwsmeriaid ynglyn a’u perfformiad yn y flwyddyn 2007-08.
Fe all sefydliadau a grwpiau cymuned ledled Cymru yn awr dapio i mewn i adnodd pwrpasol o siaradwyr i annerch eu staff a’u haelodau am waith Cymorth Dwr i alluogi rhai o’r bobl dlotaf i gael at ddwr diogel a glanweithdra.
Biliau unradd a rhaglen fuddsoddi gwerth £1.5 biliwn
Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw wedi cyflwyno'u Cynllun Busnes Drafft i Ofwat, rheolydd y diwydiant dwr. Dyma'r cam cyntaf yn yr adolygiad pum mlynedd a fydd yn pennu safonau, gwariant buddsoddi a biliau cwsmeriaid ar gyfer y cyfnod nesaf, 2010-2015. Dros y misoedd sydd i ddod, fe fydd y Cynllun Busnes Drafft hwn yn cael ei adolygu a'i herio gan Ofwat ac eraill, ac fe fydd y Cynllun Busnes Terfynol wedyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Y mae staff gwasanaethau cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water a disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yn Llaneirwg wedi dathlu diwedd blwyddyn lwyddiannus arall o fentora, gydag ymweliad a’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn i’r plant gael gweld drostynt eu hunain ble y mae’u mentoriaid yn gweithio. Y mae staff gwasanaethau cwsmeriaid Dwr Cymru Welsh Water a disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yn Llaneirwg wedi dathlu diwedd blwyddyn lwyddiannus arall o fentora, gydag ymweliad a’r ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn i’r plant gael gweld drostynt eu hunain ble y mae’u mentoriaid yn gweithio.
Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad ym mharc gwledig a chronfa ddwr Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran, ger Hwlffordd, yn cynnig rhannu’u harbenigedd a’u gwybodaeth am bysgota ddydd Gwener hwn (15fed o Awst).
Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran yn paratoi ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn ystod gwyliau’r haf hwn.
Manteisiwch hyd yr eithaf ar wyliau’r haf gydag ymweliad a Chwm Elan ble y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig i ymwelwyr wythnos o ddigwyddiadau llawn difyrrwch ac addysgiadol sy’n addas i bawb.
Yn gyntaf, y mae yna’r cyfle i fwynhau’r awyr fawr agored ac ymestyn eich coesau ddydd Sul, y 10fed o Awst gyda thaith gerdded rwydd ‘Taith y Pentref’ sy’n filltir o hyd drwy ran o Stad Elan.
Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran yn paratoi ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn ystod gwyliau’r haf hwn.
Y mae diwrnodau gweithgareddau newydd sbon gan Dwr Cymru Welsh Water, sef ‘Pwysigrwydd Dwr / Water Matters’, wedi profi mor boblogaidd gydag ysgolion Sir Fynwy fel bod pob un o’r naw o sesiynau’r cwmni wedi’u harchebu o fewn pedair awr ar hugain.
Er nad yw Uganda yn cael ei chynnwys yn y newyddion yr un mor rheolaidd a rhai o’i chymdogion mwy anwadal yn Affrica, eto i gyd y mae’r wlad yn dal yn druenus o dlawd ac y mae bron hanner y boblogaeth yn byw heb gyflenwad dwr diogel. Fe fydd Mary Watkins o Dwr Cymru Welsh Water yn profi’r amgylchiadau hyn drosti’i hun pan fydd hi’n ymweld a’r wlad ddiwedd mis Awst, gyda’r elusen Cymorth Dwr.
Y mae disgyblion o Ysgol Gynradd Gwauncelyn ym Mhontypridd wedi bod yn ymweld a Chanolfan Genedlaethol Gwlyptiroedd Cymru (NWCW) yn Llanelli am wers arbennig am y rhan hanfodol sydd gan ddwr yn ein bywydau.
• Y mae cwmni’n enwi’r ‘Dwsin Drwg’ o eitemau i beidio a’u fflysio i lawr y toiled.
• Ysgol a thim dwr mewn ymgyrch codi ysbwriel ar draeth Porthcawl.
Y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi Dwr Cymru Welsh Water yn eu hymgyrch i atgoffa cwsmeriaid: ‘Nid bin ysbwriel yw’ch toiled.’
Gyda dyfodiad tywydd cynnes mis Awst, nid oes yna esgus dros aros dan do, gan fod Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig y cyfle i ymwelwyr a Chwm Elan gymryd rhan mewn wythnos o ddigwyddiadau amrywiol ac sy’n llawn hwyl.
Fe roddir y cyfle i drigolion yn Nhon Pentre a’r Gelli gael golwg ar gynlluniau cynllun buddsoddi gwerth £1.5 miliwn Dwr Cymru Welsh Water sydd wedi’i amserlennu i ddechrau yn yr ardal yn go fuan.
A allech chi ffitio hippo yn eich cartref? Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn herio cwsmeriaid i ymweld a’u sioeau teithiol yr haf hwn a chanfod yn union pa mor hawdd ydyw!
Cadwch allan o gronfeydd dwr oedd y neges a roddwyd gan Dwr Cymru Welsh Water yn nigwyddiad diogelwch cymunedol Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru yn Coopers Field, Caerdydd.
Y mae’r mis hwn yn dyst i gynnal un arall o’r cyrsiau pysgota a phlu bythol boblogaidd yng nghronfa ddwr olygfaol Llys-y-Fran o eiddo Dwr Cymru Welsh Water.
Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad ar Stad Cwm Elan o eiddo Dwr Cymru Welsh Water yn eiddgar i gyflwyno ystod o ddigwyddiadau gwyliau’r haf ar gyfer y teulu i gyd - ac y mae’r rhan fwyaf am ddim hefyd.
Y mae’r digwyddiad cyntaf, y daith gerdded ‘Nerth Blodau’, yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, y 19eg o Orffennaf ac fe fydd yn apelio at egin-fotanegwyr a pherlysieuwyr. Fe fydd ymwelwyr yn chwilio am blanhigion megis yr Urtica dioca, a adwaenir yn well fel y ‘danadl poethion’, mewn gwrychoedd, coetir a thir anial, a dysgu am y gwahanol ddefnyddiau sydd yna ar gyfer y planhigyn hwn y mae modd ei wneud yn de neu’n gawl blasus.
Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yn Llys-y-Fran yn paratoi ar gyfer gweithgareddau llawn hwyl ar gyfer y teulu i gyd yn ystod gwyliau’r haf hwn.
Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 14eg o Orffennaf) yn dyst i ddechreuad cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru’r perygl o lifogydd yng Nghwmbach.
Y mae’r wythnos hon (dydd Llun, y 14eg o Orffennaf) yn dyst i ddechreuad cynllun gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru’r perygl o lifogydd ym Mhenarth.
A ydych erioed wedi meddwl tybed pa fath o fwystfilod dyfriog sy’n llechu yn ein pyllau a’n gerddi? Os ydych, y mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig y cyfle ichi ganfod hynny ar saffari bwystfilod bach a throchi mewn pwll yng Ngogledd Cymru.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi uno gyda Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) i fod y sefydliad cyntaf yng Nghymru i addo’i gymorth er mwyn lleihau tirlenwi a chynyddu’r defnydd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn ei waith.
Y mae taith dywysedig ar hyd Llwybr Natur Coed Cnwch yng Nghwm Elan ddydd Sadwrn hwn (y 12fed o Orffennaf) yn anelu at ganfod o leiaf 15 o wahanol rywogaethau o redyn.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn bwriadu uwchraddio’r rhwydwaith carthffosiaeth ar Gors Common er mwyn caniatau cysylltu datblygiad arfaethedig o dai ym Mhant Penderri, a lliniaru’r perygl o ddwr gwastraff yn gorlifo yn yr ardal.
Fe fydd y cynllun yn cynnwys gosod 590 metr o garthffosydd yn y comin a thanc yng ngorllewin y comin, gerllaw Gors Road a Heol Gorseinon. Fe fydd y tanc yn cael ei weithredu fel cyfleuster dal dwr byrdymor ar gyfer dwr storm yn ystod cyfnodau o dywydd garw.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water wedi dechrau ar gynllun gwerth £300,000 i atal gorlifo i eiddo yn Stryd Zouch yn ardal Manselton o ddinas Abertawe.
Fe fydd y gwaith, sy’n golygu adeiladu carthffos liniaru newydd 60 metr o hyd, yn cynyddu cynhwysedd ar y rhwydwaith, ac fe fydd y gwaith yn cael ei wneud yn Stryd Zouch, Stryd Clare a Stryd Millwood.
Fe all ymwelwyr a chronfa ddwr Llandegfedd o eiddo Dwr Cymru Welsh Water fanteisio hyd yr eithaf ar dywydd yr haf gyda thaith gerdded a drefnwyd ar gyfer dydd Sul hwn (y 6ed o Orffennaf).
Y mae’r sawl sy’n caru blodau ac ‘egin’ fotanegwyr yn cael cynnig y cyfle i gael golwg ar rywogaethau prin a rhywogaethau a warchodir yn eu cynefin naturiol yng Nghwm Elan ddydd Sul, y 6ed o Orffennaf.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water ar hyn o bryd yn gweithio i sicrhau bod cwsmeriaid yng nghanol tref Llanelli yn parhau i dderbyn cyflenwad dibynadwy o ddwr yfed o’r ansawdd uchaf yn uniongyrchol i’w tapiau.
Y mae ymwelwyr a chronfa ddwr Llyn Brenig, ger Corwen, yn cael y cyfle i ddysgu hobi newydd ddydd Sul hwn (y 6ed o Orffennaf) pan fydd celfyddyd gelfydd pysgota a phlu ar gael i bawb roi tro arni.
• Cwmni'n enwi'r 'Dwsin Drwg' o eitemau na ddylid eu golchi i lawr y toiled
• Tîm ysgol a dwr yn casglu ysbwriel ar draeth Porthcawl
Mae Dwr Cymru Welsh Water yn cefnogi 'Wythnos Cymru Daclus' Cadwch Gymru'n Daclus drwy atgoffa cwsmeriaid: 'Nid bin yw'ch toiled'.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi bron £600,000 mewn cynllun a fydd yn lliniaru’r perygl o orlifo i gartrefi lleol yn ardal Johnstown yn Wrecsam.
Y mae cynrychiolwyr Dwr Cymru Welsh Water wedi codi bron £5000 ar gyfer yr elusennau Cymorth Dwr a Hosbis Plant Claire House drwy ddringo mynyddoedd uchaf Cymru mewn un diwrnod.
Y mae ymgyrch Dwr Cymru Welsh Water i ymladd yn erbyn braster yn parhau gyda chymorth gan ddisgyblion yn Ysgol Parc Y Llan yn Nhreuddyn, sydd wedi bod yn dysgu bod bwydo adar gwyllt nid yn unig yn eu cynorthwyo hwynt i aros yn iach ond fe allai hefyd gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.
Y mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan yn gwahodd pobl i archwilio’r olygfa syfrdanol yn ardal Pen y Garreg gyda thaith gerdded dywysedig brynhawn Sadwrn hwn (yr 21ain o Fehefin).
Y mae dau o weithwyr Dwr Cymru Welsh Water o Gaerdydd wedi cynorthwyo i godi mwy na £600 ar gyfer yr elusen Cymorth Dwr, ar ol dringo bron 3,000 o droedfeddi i frig mynydd Cadair Idris yn Eryri, Gogledd Cymru.
Fe wnaeth goruchafiaeth mewn nerth ymenyddol ennill y dydd pan wnaeth tim o weithwyr Dwr Cymru Welsh Water o Ffos y Gerddinen drechu’r ‘Eggheads’ clodfawr ar sioe gwis teledu’r BBC.
Y mae disgyblion o Ysgol Uwchradd Tywyn wedi derbyn mewnwelediad drostynt eu hunain i’r hyn y mae’n ei gymryd i naddu gyrfa iddynt eu hunain yn y diwydiant adeiladu.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water heddiw yn cyhoeddi’u canlyniadau rhagarweiniol am y flwyddyn sy’n diweddu ar yr 31ain o Fawrth, 2008 – sy’n dangos rhagor o enillion mewn effeithlonrwydd a nerth ariannol.
Y mae saith a thrigain o feicwyr awyddus gyda chysylltiadau cryfion a Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau Taith Taf sy’n 55 milltir o hyd i gefnogi hoff elusen y sefydliad, Cymorth Dwr.
Y mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Cornist Park yn Y Fflint wedi bod yn dysgu sut y mae bwydo adar gwyllt nid yn unig yn eu cynorthwyo hwynt i aros yn iach ond fe allai hefyd gadw carthffosydd lleol mewn cyflwr penigamp.
· Ymgyrch ‘Cnoc Cnoc. Pwy sy ‘na? Holwch yn iawn cyn eu gadael i mewn!’ yn cael ei lansio heddiw
· Lanio ymgyrch ar ol i bensiynwyr o Gymru’n dioddef o ladrata tynnu sylw