Cyf: OWR 9700 Rhagfyr 1997
Ein gwaith ni yn Dwr Cymru yw sicrhau y cewch yr holl ddwr sydd ei angen
arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, beth bynnag fo'r tywydd, yr
amser o'r dydd neu adeg o'r flwyddyn.
Mae Dwr Cymru yn casglu, glanhau ac yn cludo 1,000 miliwn o litrau o
ddwr bob dydd i gartrefi, ysgolion, swyddfeydd a ffatrïoedd ledled
Cymru.
Mae'r daflen Archwiliad Dwr "DIY" hon yn dangos i chi sut i
ddefnyddio dwr yn fwy doeth yn yr ysgol ac yn y cartref. Mae'n syndod,
ond gydag ychydig mwy o waith meddwl mae'n hawdd gostwng y swm o ddwr
rydym yn ei ddefnyddio.
Dwr yw'r sylwedd mwyaf cyffredin ac eto'r sylwedd mwyaf rhyfeddol yn
y byd. Mae'n gorchuddio tri chwarter wyneb y ddaear ac mae ganddo lawer
o nodweddion anarferol. Heb ddwr nid oes dim.
Cliciwch yma i gael fersiwn pdf o'r ffurflen
A wyddoch chi?
- Rydym yn defnyddio 150 litr yr un o ddwr glân sydd wedi'i
drin bob dydd
- Mae dros draean o'r dwr rydym yn ei ddefnyddio gartref yn mynd
i lawr y toiled - bob tro y caiff ei fflysio defnyddir rhwng 6 a 13
litr o ddwr, yn dibynnu ar faint seston y toiled
- Caiff dros hanner y dwr rydych yn ei ddefnyddio yn yr ysgol ei
ddefnyddio wrth fflysio'r toiledau a'r troethfâu
- Gall tap sy'n rhedeg ddefnyddio hyd at 9 litr o ddwr y funud.
- Gall tap sy'n diferu wastraffu hyd at 30 litr o ddwr y dydd
- Mae peiriant golchi yn defnyddio hyd at 80 litr o ddwr y tro p'un
a yw'n llawn ai peidio, ac mae peiriant golchi llestri yn defnyddio
rhwng 22 a 35 litr y tro
- Mae bath yn defnyddio hyd at 80 litr o ddwr ac mae cawod yn defnyddio
35 litr o ddwr. Gall cawod bwer (un â phwmp) ddefnyddio bron
yr un faint o ddwr â bath
- Mae chwistrellwyr dwr yr ardd yn defnyddio swm anferthol o ddwr,
hyd at 650 litr yr awr - cymaint ag y byddai un person yn ei ddefnyddio
mewn 4 diwrnod.
Ble y Caiff hwn ei Ddefnyddio?
| Mewn ysgol nodweddiadol |
Mewn cartref nodweddiadol |
 |
|
Syniadau i Arbed Dwr
Use the checklist below, and see if you can spot any ways to save water at your school.
Things that can waste water
- Ydy'r troethfâu yn nhoiledau'r bechgyn yn fflysio
drwy'r amser - hyd yn oed pan fydd yr ysgol ar gau? Os ydynt, gofynnwch a yw hyn yn angenrheidiol.
- A oes unrhyw rai o'r tapiau yn yr ystafell gotiau yn
diferu neu orlifiadau yn rhedeg?
Os oes, a ellir gosod wasieri newydd neu drwsio'r gorlifiad?
- A yw ein sticeri "Arbedwch ddwr" wedi'u gosod uwchben
y basnau llaw?
- Ydy'ch cantîn wastad yn defnyddio'r peiriant golchi llestri
/ peiriant golchi wedi'i lenwi'n llawn?
- Ydyn nhw wastad yn rhoi'r plwg yn y sinc pan fyddant
yn golchi'r llysiau?
- Ydy eich ysgol chi yn defnyddio chwistrellydd dwr?
What could you use instead?Beth gallech ei ddefnyddio yn ei le?
- Ydy'r pibellau dwr wedi cael eu gorchuddio'n gywir i'w hatal rhag
rhewi mewn tywydd oer?
Beth allai ddigwydd os nad ydynt?
Cysylltwch â 01874 614523 os hoffech gael sticeri.
A oes gollyngiad dwr yn eich ysgol?
- Holwch lle mae mesurydd dwr yr ysgol.
- Darllenwch ef wrth i'r ysgol orffen gyda'r nos - nodwch y darlleniad.
- Darllenwch ef wrth i'r ysgol ddechrau yn y bore - nodwch y darlleniad.
- Faint a ddefnyddiwyd dros nos?
- Os oes gwahaniaeth mawr mae'n bosibl bod pibell yn gollwng.
- Ar ôl diwrnodau sych, heulog a oes rhannau gwlyb ar dir yr
ysgol?
Gall eich gofalwr ffonio Rhadffon 0800 281432 i roi gwybod am bibell sy'n gollwng.
Defnydd Dwr pob Dydd
Faint o ddwr ydych chi'n ei ddefnyddio yn yr ysgol bob dydd?
- Darllenwch y mesurydd wrth i'r ysgol gychwyn yn y bore - nodwch
y darlleniad.
- Darllenwch y mesurydd eto wrth i'r ysgol orffen gyda'r nos - nodwch
y darlleniad.
- Faint o ddwr mae eich ysgol wedi'i ddefnyddio yn ystod y dydd?
- Felly, faint o ddwr mae pob disgybl yn ei ddefnyddio bob dydd?
|