Os yn wynebu caledi ariannol ac yn methu talu eich biliau dŵr (ee colli gwaith, salwch neu argyfwng teuluol), efallai byddwch yn gymwys i gael cymorth eithriadol.
Sefydlwyd y gronfa hon i helpu cwsmeriaid preswyl mewn dyled ar eu cyfrif dŵr, er mwyn eu helpu i ostwng y dyledion hynny a rheoli taliadau’r dyfodol.
Beth yw’r drefn?
Efallai byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun os oes dyledion dŵr o £150 neu fwy gennych.
Os yn eich derbyn, y cam cyntaf fydd gwneud taliadau rheolaidd o’ch costau dŵr am 26 wythnos. Os yn llwyddo i wneud hynny, byddwn yn haneru eich dyledion a byddwch yn mynd ymlaen at gam 2.
Bydd cam 2 yn galw am daliadau pellach dros gyfnod o 26 wythnos tuag at gostau dŵr eleni ac os yn llwyddo i wneud hynny byddwn yn clirio gweddill y ddyled ar eich bil.
Mae’n cynrychioli un cyfle yn unig i ni eich helpu i glirio eich dyledion dŵr.